Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwyl Calan Gaeaf am ddim yng nghanol dinas Abertawe

​​​​​​​Gall teuluoedd sy'n chwilio am hwyl am ddim y mis hwn ymweld â Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas lle cynhelir digwyddiad arswydus arbennig ddydd Sadwrn.

Spooks In The City

Spooks In The City

Bydd digwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas blynyddol Cyngor Abertawe ar 29 Hydref yn apelio at breswylwyr o bob oedran yn ystod y cyfnod cyn nos galan gaeaf.

Bydd yn cynnwys adloniant i'r teulu, gemau a pherfformiadau dawns - a gorymdaith bwmpenni a gefnogir gan Braces Bakery.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Bydd Sgwâr y Castell yn cael ei drawsnewid ar gyfer Ysbrydion yn y Ddinas yn unol â thema nos galan gaeaf.

"Bydd y gweithgareddau'n addas i deuluoedd a bydd y cyfan am ddim - bydd hyn yn helpu gyda'r heriau ariannol y mae nifer o bobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr i roi hwb i fasnachwyr lleol. Bydd y digwyddiad am ddim, sy'n rhywbeth i'w groesawu ar adeg pan fo cynifer o bobl yn wynebu heriau ariannol."

Cynhelir Ysbrydion yn y Ddinas ddydd Sadwrn, 29 Hydref, rhwng 11.00am a 4.00pm.

Bydd cerddoriaeth, tatŵs pefr, colur theatraidd, pwmpenni, gweithdai crefft a phropiau nos galan gaeaf ar gyfer tynnu lluniau.

Bydd cystadlaethau ar gyfer y wisg ffansi orau, y sgrech orau a'r wyneb fwyaf hunllefus! Bydd gemau'n cynnwys y stomp bwmpenni, taflu cylchau at hetiau'r gwrachod, creu mymi gyda phapur toiled, ras gyfnewid pwmpenni a gêm rhoi'r corryn ar y we.

Bydd yr orymdaith bwmpenni am 3pm yn cynnwys gwrachod, bwci bos a chymeriadau eraill a fydd yn cael eu harwain gan ddrymwyr samba o gwmpas canol y ddinas.

Anogir ymwelwyr i wisgo'u gwisgoedd ffansi fwyaf hunllefus ac ymuno yn yr orymdaith. Rhaid bod pob plentyn yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

Rhagor o wybodaeth: croesobaeabertawe.com

Llun: Digwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas blaenorol.

 

 

 

Close Dewis iaith