Digwyddiadau arswydus yn dychwelyd i ganol y ddinas
Bydd digwyddiad hynod boblogaidd Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd ddydd Sadwrn 28 Hydref.
Mae'r digwyddiad blynyddol am ddim hwn yn rhan o ymdrechion parhaus Cyngor Abertawe, lle bynnag y bo modd, i gynnig diwrnodau difyr o safon uchel i deuluoedd sydd naill ai am ddim neu am gost isel.
Eleni mae'r diwrnod o hwyl arswydus yn cael ei gynnal mewn lleoliad newydd yng nghanol y ddinas, sef St David's Place, ger hen siop Iceland, ger pont Bae Copr o Arena Abertawe.
Bydd digonedd o ddifyrrwch dychrynllyd ar y diwrnod gydag adloniant ar thema Calan Gaeaf, cymeriadau a sioeau byw gan ysgolion dawns lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am Ysbrydion yn y Ddinas a'r holl ddigwyddiadau eraill sydd ar ddod ym Mae Abertawe, ewch i: joiobaeabertawe.com