Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd ar gyfer 2025

Mae'r digwyddiad Calan Gaeaf blynyddol AM DDIM yng nghanol dinas Abertawe yn dychwelyd ddydd Sadwrn 25 Hydref, ac mae eleni'n addo digwyddiad na fyddwch am ei golli.

spooks in the city 2024

Yn ogystal â'n hardal ddigwyddiadau sy'n addas i deuluoedd yn St David's Place, bydd ardal newydd sydd wedi'i chynllunio i ddychryn a chyffroi yn cael ei chyflwyno eleni ym Mharc Amy Dillwyn ym Mae Copr.

Paratowch am ddigwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas: Angenfilod Afreolus, gyda chefnogaeth Cynnig Gofal Plant Cymru, a dewch i gwrdd â phob math o greaduriaid yn y ddwy ardal rhwng 3pm ac 8pm.

Mae St David's Place yn berffaith ar gyfer teuluoedd - mae'r ardal fywiog hon yn cynnwys prif lwyfan sy'n llawn adloniant i blant gyda chefnogaeth Dechrau'n Deg, gemau, cerddoriaeth, cystadleuaeth gwisg ffansi a pherfformiadau gan ddiddanwyr proffesiynol. Ond cofiwch - bydd creaduriaid yn crwydro'r sgwâr, yn barod i ddychryn a diddanu gwesteion iau.

Ar draws y bont fygythiol mae parc Amy Dillwyn - ydych chi'n ddigon dewr i fentro i'r ardal newydd hon? Mae'r ardal hon yn llawn creaduriaid brawychus a phethau dychrynllyd a all eich atal rhag cysgu.

Dilynwch lwybr lluniau'r Angenfilod Afreolus sy'n cysylltu'r ddwy ardal i ddarganfod yr wyth bwystfil i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Cadwch lygad am greaduriaid enfawr ar yr adeiladau, tafluniadau brawychus ac arswydion ym mhobman. Gall y rhai sy'n dwlu ar wisg ffansi gymryd rhan yn ein cystadleuaeth gwisg ffansi - mae gwobrau i'w hennill ac mae gennym gategorïau i blant ac oedolion!

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Ysbrydion yn y Ddinas yw uchafbwynt ein calendr blynyddol, ac eleni rydym yn falch o gynnig profiad newydd i'n gwesteion hŷn. Mae un ardal i deuluoedd ac un arall i'r rhai sy'n chwilio am wefr, felly bydd digon o chwerthin a sgrechian yn atseinio drwy strydoedd Abertawe.

"Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wella'r hyn sydd gan y ddinas i'w gynnig, ac mae digwyddiad eleni yn enghraifft berffaith o hynny."

Mae Ysbrydion yn y Ddinas: Angenfilod Afreolus AM DDIM ac fe'i cynhelir ddydd Sadwrn 25 Hydref rhwng 3pm ac 8pm yn St David's Place a Pharc Amy Dillwyn, Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.croesobaeabertawe.com/ysbrydion/ 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Hydref 2025