Toglo gwelededd dewislen symudol

Chwaraeon o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Abertawe

Mae Abertawe'n barod i gynnal penwythnos arall o chwaraeon o'r radd flaenaf yr haf nesaf.

Athlete

Bydd miloedd o athletwyr, cefnogwyr a gwylwyr yn gallu mwynhau Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe 2023 (15 Gorffennaf) ac IRONMAN 70.3 Abertawe (16 Gorffennaf).

Cynhaliwyd y digwyddiadau cyntaf hyn eleni yn olynol ar ddechrau mis Awst a chawsant eu canmol gan lawer fel llwyddiant ysgubol, gyda sylw'r byd ar Abertawe.

Cynhelir digwyddiadau'r flwyddyn nesaf ar benwythnos 15 ac 16 Gorffennaf, cyn gwyliau haf yr ysgolion a byddant yn helpu i ddechrau cyfnod brig twristiaeth yr ardal.

Fel y digwyddodd yn 2022, bydd y penwythnos yn dilyn Gŵyl Parachwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru gyda chyfleoedd cymryd rhan hygyrch mewn gweithgareddau fel nofio, beicio a rhedeg.

Cynhelir ras Cyfres Para Treiathlon y Byd o fewn y cyfnod i ennill lle yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024, gan roi cyfle allweddol i athletwyr Prydeinig ennill pwyntiau cymhwyso gwerthfawr gartref.

Mae Cyngor Abertawe yn gweithio gyda threfnwyr y digwyddiad sef Triathlon Prydain ac IRONMAN i sicrhau y gall pobl, cymunedau a busnesau lleol gynllunio ar gyfer y digwyddiadau hyn, eu mwynhau ac elwa ohonynt.

Mae partneriaid eraill yn cynnwys UK Sport, Llywodraeth Cymru a Thriathlon Cymru.

Cyhoeddwyd Cyfres Para Treiathlon y Byd 2023 heddiw ac agorodd y cyfle i gofrestru ar gyfer IRONMAN 70.3 Abertawe heddiw.

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies,"Rydym yn falch iawn y bydd y digwyddiadau hyn yn dychwelyd unwaith yn rhagor yn 2023.

"Bydd yr wythnos unigryw hon yn darparu cyfleoedd ar gyfer, ac yn cynnwys, cystadleuwyr ag amrywiaeth eang o alluoedd - hyd at y lefel uchaf.

"Roedd llwyfannu'r digwyddiad am y tro cyntaf eleni yn llwyddiant mawr i athletwyr, cefnogwyr, busnesau lleol a phreswylwyr. Gwelwyd pencampwyr Olympaidd, Paralympaidd, y Byd a'r Gymanwlad yn rasio yn Abertawe.

"Rydym wedi gwrando ar adborth lleol, ac o ganlyniad, bydd y digwyddiadau chwaraeon hyn yn 2023 yn cael eu cynnal y tu allan i'r gwyliau ysgol, ac ynghyd â Sioe Awyr Cymru, yn helpu i gyflwyno haf gwych arall yn Abertawe.

"Mae gennym gyfnod o 10 mis i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer ein hwythnos chwaraeon o'r radd flaenaf yn 2023 a hoffem wneud cystal â digwyddiad hen sefydledig a hynod lwyddiannus IRONMAN Dinbych-y-pysgod sydd wedi gwneud cymaint i roi de-orllewin Cymru ar y map a rhoi hwb i fusnesau a thwristiaeth.

"Rydym am ysbrydoli pobl leol i gystadlu mewn chwaraeon a'u mwynhau mewn ffyrdd eraill hefyd."

Meddai Andy Salmon, Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn Treiathalon Prydain, "Ar ôl trefnu digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd annibynnol gyntaf Prydain yn gynharach eleni, rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu parhau'r momentwm trwy gyhoeddi 15 Gorffennaf 2023 fel y dyddiad ar gyfer y gyfres nesaf.

"Ochr yn ochr â'r rasio eleni, cynhaliom y Gynhadledd Treiathlon Para Rhyngwladol gyntaf dan faner 'i sicrhau cydraddoldeb para', a dyna yw ein gweledigaeth wrth i ni geisio adeiladu ar lwyddiant 2022 drwy wella'r profiad o ddigwyddiadau paradreiathlon a'u darpariaeth ymhellach.

"Gan weithio gyda phartneriaid yn UK ​​Sport, Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Abertawe a  Triathlon Cymru, rydym yn gyffrous i groesawu paradreiathletwyr o bedwar ban byd i Brydain unwaith eto."

Meddai Rebecca Sutherland, Cyfarwyddwr Ras IRONMAN 70.3 Abertawe, "Yn dilyn llwyddiant ysgubol cyfres gyntaf IRONMAN 70.3 Abertawe, rydym wrth ein boddau ein bod yn dychwelyd yn 2023.

"Mae Abertawe wedi bod yn ychwanegiad gwych i'n calendr rasio Ewropeaidd, a phwysleisiwyd hyn gan ymateb aruthrol ein hathletwyr gyda phob tocyn i'r ras wedi'i werthu yn ei blwyddyn gyntaf. Yr hyn sy'n galonogol yw bod 60% o athletwyr wedi cymryd rhan yn eu treiathlon IRONMAN 70.3 cyntaf yn y gyfres gyntaf.

"Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddangoswyd tuag at y digwyddiad ac rydym eisoes yn cynllunio ar gyfer cyflwyno profiad arall o'r radd flaenaf ar gyfer athletwyr a'r gymuned, i roi digwyddiad iddynt y gallant fod yn hynod falch ohono."

Cwestiynau Cyffredin

C A fydd hyn yn golygu cau ffyrdd dros dro ar benwythnos 15 - 16 Gorffennaf, 2023?

A  Bydd. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ymhell ymlaen llaw fel y gall deiliaid tai a busnesau ar draws Abertawe a phenrhyn Gŵyr gynllunio ymlaen llaw. Mae'r cyngor eisoes yn trafod hyn gyda threfnyddion y digwyddiad a bydd barn cymunedau lleol yn cael ei hystyried. Mae'r penwythnos chwaraeon yn dod â manteision economaidd a chyfleoedd i wylwyr i'n hardal leol, ac rydym yn ddiolchgar i ddeiliaid tai, busnesau ac eraill yn lleoliadau'r digwyddiad am eu dealltwriaeth.

Onid yw Sioe Awyr Cymru i fod i gael ei chynnal bythefnos yn unig cyn Cyfres Para Treiathlon y Byd 2023 Abertawe ac IRONMAN 70.3 Abertawe?

A  Ydy. Cynhelir y Sioe Awyr ar 1 - 2 Gorffennaf, cynhelir y penwythnos chwaraeon ar 15 - 16 Gorffennaf. Mae'r ddau ddigwyddiad yn dod â manteision economaidd a chyfleoedd i wylwyr i'n hardal leol a bydd y ddau yn cael cyhoeddusrwydd eang ymhell ymlaen llaw - yn ogystal â'r newidiadau dros dro i'r ffyrdd ar gyfer pob penwythnos. Rydym yn ddiolchgar i ddeiliaid tai, busnesau ac eraill yn lleoliadau'r digwyddiad am eu dealltwriaeth.

A all Abertawe ymdopi â'r newidiadau i fywyd pob dydd a ddaw yn sgîl y digwyddiadau hyn?

A  Gall - trwy wrando ar gymunedau lleol, cynllunio ymhell ymlaen llaw, gweithio gyda phartneriaid o safon a thrwy ddefnyddio arbenigedd y cyngor ei hun mewn trefnu digwyddiadau. Mae'n bwysig bod gan Abertawe galendr digwyddiadau cryf - mae'n helpu i wneud y ddinas yn lle deniadol i fyw ac yn gyrchfan i bobl ymweld ag ef a hybu ein heconomi leol.

Pam y mae angen wythnos lawn o chwaraeon arnom?

A  Hoffai'r cyngor ysbrydoli pobl leol o bob gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau iach yn y ffyrdd y maen nhw'n eu mwynhau fwyaf. Bydd cannoedd ohonynt yn cymryd rhan yng Ngŵyl Chwaraeon Para Chwaraeon Anabledd Cymru fis Gorffennaf nesaf, Cyfres Para Treiathlon y Byd 2023 Abertawe ac IRONMAN 70.3 Abertawe. Fel yn achos eleni, bydd miloedd yn mwynhau'r digwyddiadau fel gwylwyr. Rydym hefyd yn gweld bod y digwyddiadau yn dod â manteision economaidd i'r ardal; daeth wythnos 2022 â busnes da i ddarparwyr llety ac eraill yn y diwydiant croeso.

Sut ydych chi'n gwybod y bydd 2023 yn llwyddiant? 

A  Mae pobl Abertawe yn mwynhau digwyddiadau arbennig - fel y gwelwyd gan Sioe Awyr Cymru, Gorymdaith y Nadolig, yr arddangosfa tân gwyllt flynyddol ar lan y môr a chyngherddau Parc Singleton. Ym mis Awst, roedd miloedd o breswylwyr Abertawe a phenrhyn Gŵyr wedi cefnogi a mwynhau'r penwythnos penigamp hwn o chwaraeon. Roedd pobl a sefydliadau yn gefnogol o'r ddau ddigwyddiad mawr newydd, gan dderbyn rhai newidiadau i fywyd pob dydd a oedd yn angenrheidiol er mwyn gallu cynnal y digwyddiadau'n ddiogel.

Onid oes gormod o heriau ar gyfer y gymuned leol pan gynhelir y digwyddiadau hyn?

A  Rydym yn diolch i breswylwyr a busnesau am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth iddynt wneud newidiadau i'w bywydau o ddydd i ddydd. Rydym yn gwerthfawrogi bod y trefniadau cau ffyrdd wedi tarfu ychydig ar arferion bob dydd - ond maen nhw'n bwysig er mwyn i ni wneud digwyddiadau o'r fath mor ddiogel â phosib i bawb sy'n cymryd rhan ynddynt a phreswylwyr lleol. Mae dod â chwaraeon o'r radd flaenaf a digwyddiadau eraill i unrhyw leoliad yn heriol ond mae'r cyngor yn benderfynol o roi rhaglenni uchelgeisiol o ddigwyddiadau mawr i bobl yr ardal hon. Maent yn rhoi pethau gwych i bobl leol eu gweld a'u gwneud - ac maent yn rhoi hwb sylweddol i'r economi leol. Ym mis Awst 2022, cynhaliom benwythnos mawr o chwaraeon rhyngwladol ac fe roddodd sylw byd-eang i Abertawe fel cyrchfan. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddenu digwyddiadau chwaraeon o'r radd flaenaf i Abertawe yn rheolaidd i hybu twristiaeth a'r economi ymwelwyr.