Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefniadau ffyrdd wedi'u cyhoeddi ar gyfer penwythnos mawr o chwaraeon

​​​​​​​Bydd cyfres o newidiadau i'r ffyrdd dros dro ar waith yn hwyrach yr haf hwn er mwyn galluogi Abertawe i gynnal penwythnos o chwaraeon o ansawdd uchel.

Ironman Bike

Byddant yn effeithio ar rannau o ardal glan môr canol y ddinas ddydd Sadwrn 6 Awst ac ardal ehangach o lan môr y ddinas ac ardal Gŵyr, gan gynnwys yr A4118 a'r B4271 ddydd Sul 7 Awst.

Anfonwyd miloedd o daflenni, sy'n cynnwys mapiau o'r ffyrdd a fydd ar gau a'r amserlenni cau ffyrdd, i ddeiliaid tai lleol gan drefnwyr digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd Volvo 2022 (6 Awst) ac IRONMAN 70.3 Abertawe'r diwrnod canlynol.

Bydd newidiadau i'r ffyrdd ar gyfer 6 Awst yn bennaf ar waith o amgylch Glannau SA1, y Marina ac Oystermouth Road, hyd at Barc Victoria i'r gorllewin.

Bydd y newidiadau ar gyfer dydd Sul yn cynnwys yr ardaloedd hyn a byddant yn ymestyn hyd at ffyrdd mewn cymunedau fel y Mwmbwls, Langland, Llandeilo Ferwallt, Parkmill, Nicholaston, Llan-y-tair-mair, Llanmadog, Llanrhidian, Reynoldston a Mayals. Bydd y rhan fwyaf o'r rhain ar waith yn ystod y bore'n unig.

Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob adeg.

Bydd y ddau ddigwyddiad yn rhoi'r cyfle i breswylwyr lleol ac ymwelwyr wylio digwyddiad chwaraeon o'r radd flaenaf a chymryd rhan ynddo. Byddant yn tynnu sylw byd-eang at Abertawe wrth i filoedd o athletwyr, gan gynnwys rhai o'r radd flaenaf, gymryd rhan dros y ddau ddiwrnod.

Gall preswylwyr, ymwelwyr a busnesau ag unrhyw ymholiadau gysylltu â'r canlynol:

Manylion llawn:

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith