Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgwylir y bydd gwirfoddolwyr yn helpu digwyddiad chwaraeon penigamp i roi sylw byd-eang i Abertawe

Nod dros 400 o wirfoddolwyr yw helpu ras chwaraeon mawr Abertawe, a gynhelir dros y penwythnos, i groesi'r llinell derfyn.

Cadets

Byddant yn helpu y dydd Sadwrn a'r dydd Sul hwn pan gynhelir Cyfres Para Treiathlon y Byd 2023 Abertawe ac IRONMAN 70.3 Abertawe yn yr ardal.

Mae gwirfoddolwyr eleni'n cynnwys Summer Brooks a Mackenzie Bryan, ac mae'r ddau'n 17 oed.

Mae'r ddau'n aelodau o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg sydd, ynghyd â sefydliadau lleol eraill, yn darparu cymorth gwirfoddol hanfodol.

Meddai Summer, sy'n gweithio yn Spider Music, Gorseinon, "Bydd y penwythnos hwn yn gyfle gwych i ni gadetiaid, yn enwedig y rhai iau, gael profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm prysur mewn amgylchedd cyhoeddus iawn."

Meddai Mackenzie, myfyriwr Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Joseph ym Mhort Talbot, "Mae'r penwythnos hwn yn ymwneud â bod yng nghwmni pobl mewn sefyllfa bywyd go iawn, gan wneud rhywbeth defnyddiol a gwerthfawr dros ein cymuned leol."

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Mae'n mynd i fod yn benwythnos chwaraeon gwych ar gyfer y ddinas a hoffwn ddiolch i'r holl wirfoddolwyr am eu hymrwymiad."

Meddai Cyfarwyddwr digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe 2023, Jonny Hamp, "Heb bobl fel Summer a Mackenzie, nid fyddem yn gallu darparu'r profiad ar gyfer cyfranogwyr a gwylwyr rydym yn ei wneud."

 

Meddai Rebecca Sutherland, Cyfarwyddwr ras IRONMAN 70.3 Abertawe, "Roedd y gefnogaeth leol a gafwyd y llynedd gan breswylwyr, gwylwyr a gwirfoddolwyr yn anhygoel, felly gyda chwrs beicio newydd a ras lle gwerthwyd pob tocyn, rydym ni'n gobeithio y bydd 2023 hyd yn oed yn well."

Bydd digwyddiadau'r penwythnos yn golygu cau ffyrdd dros dro o fore dydd Gwener o gwmpas ardal glan y môr y ddinas ac mewn rhannau o benrhyn Gŵyr.

Rhagor o wybodaeth: www.bit.ly/WTPSswansea a www.ironman.com/im703-swansea.

Llun: Summer Brooks a Mackenzie Bryan.