Dinasyddion a chefnogwyr yn cael eu canmol am gefnogi miloedd o athletwyr
Roedd miloedd o breswylwyr Abertawe a bro Gŵyr wedi mwynhau penwythnos penigamp o chwaraeon.


Canmolwyd pobl a sefydliadau am ddod i gefnogi dau ddigwyddiad mawr am yr eildro.
Roedd digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd 2023 Abertawe ddydd Sadwrn a digwyddiad Ironman 70.3 Abertawe ddydd Sul wedi denu miloedd o athletwyr a gwylwyr. Mae wedi rhoi hwb i'r economi leol.
Roedd y penwythnos yn nodi diwedd wythnos gyfan o weithgarwch, gan gynnwys Gŵyl Parachwaraeon, a ysbrydolodd bobl i fwynhau chwaraeon.
Daeth cannoedd o wirfoddolwyr i gefnogi'r digwyddiadau.
Trefnwyd y digwyddiadau gan Ironman a Treiathlon Prydain, ynghyd â chefnogwyr allweddol sef Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Roedd y penwythnos yn anhygoel ac yn ysbrydoliaeth i filoedd.
"Diolch i bawb a gymerodd ran, a drefnodd ac a gefnogodd y digwyddiadau, a diolch i'r holl breswylwyr a busnesau am eu dealltwriaeth wrth iddyn nhw wneud newidiadau i'w bywydau bob dydd.
"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddenu digwyddiadau chwaraeon o'r radd flaenaf i Abertawe i hybu twristiaeth a'r economi ymwelwyr."