Contractwr wedi'i benodi i ddarparu sgubor chwaraeon dan do gwerth £7m
Penodwyd contractwr lleol i ddarparu prosiect gwerth £7m i drawsnewid y cyfleusterau chwaraeon a chymunedol yn nwyrain Abertawe a fydd ar gael i gymuned y ddinas a'r rhanbarth ehangach eu defnyddio.


Bydd y buddsoddiad yng Nghanolfan Hamdden Cefn Hengoed a'r ysgol yn cynnwys sgubor chwaraeon newydd gyda chae 3G dan do a stiwdio ffitrwydd yn ogystal â chae pum bob ochr awyr agored sydd wedi'i addasu.
Mae'r cyllid hefyd yn cynnwys caffi a lleoedd hyblyg i'w defnyddio rhwng yr ysgol, y ganolfan hamdden a phartneriaid.
Mae'r prosiect hefyd yn darparu cyfle i wneud gwelliannau a bydd y cynllun newydd yn ymestyn oriau agor y ganolfan hamdden.
Caiff ei ariannu gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru gyda chymorth ariannol ychwanegol gan The Football Foundation, gyda Sefydliad Dinas Abertawe, Chwaraeon Cymru a Freedom Leisure sy'n rheoli'r ganolfan hamdden ar ran y cyngor.
Mae Morganstone o dde Cymru wedi gwneud cynnig llwyddiannus i ddarparu'r prosiect ac maent yn bwriadu dechrau ar y gwaith cyn gynted â phosib.