Newid i ddyddiad dechrau tymor y gwanwyn yn Abertawe
Disgwylir i ysgolion yn Abertawe agor ddeuddydd yn hwyrach na'r disgwyl ar ddechrau'r tymor nesaf i roi amser iddynt gynllunio a pharatoi ar gyfer y tymor o'u blaenau.
Mae'n golygu taw diwrnod cyntaf tymor y gwanwyn i'r rhan fwyaf o ysgolion yn Abertawe fydd dydd Iau 6 Ionawr.
Mae Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Abertawe, Helen Morgan-Rees, wedi ysgrifennu llythyr at holl rieni a gofalwyr y ddinas yn amlinellu'r newidiadau yn dilyn arweiniad wedi'i ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru, o ganlyniad i'r amrywiolyn Omicron.
Meddai, "Ein blaenoriaeth o hyd yw lleihau'r aflonyddwch i addysg a sicrhau, lle bo hynny'n bosib, fod dysgwyr yn parhau i dderbyn dysgu wyneb yn wyneb, yn ogystal ag amddiffyn staff ysgolion a dysgwyr.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dau ddiwrnod cynllunio i bob ysgol ar ddechrau tymor newydd y gwanwyn. Bydd hyn yn caniatáu amser i ni asesu nifer y staff sydd ar gael a rhoi'r mesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychweliad dysgwyr.
Fodd bynnag, bydd ysgolion hefyd yn sicrhau bod ganddynt gynlluniau cadarn ar waith i symud i ddysgu o bell os oes angen. Gallai hyn fod ar gyfer dosbarthiadau/grwpiau blwyddyn unigol neu o bosib ar gyfer yr ysgol gyfan, yn dibynnu ar bwysau staffio.
"Bydd y diwrnodau cynllunio hefyd yn caniatáu i'n hysgolion uwchradd gynllunio i ddysgwyr sefyll eu harholiadau ym mis Ionawr yn ddiogel. Ar ddechrau'r tymor bydd y myfyrwyr hyn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb ac i sicrhau y gall yr arholiadau gael eu cynnal yn ddiogel.
"O ystyried yr ansicrwydd cyfredol ynghylch Omicron mae'r Gweinidog wedi gofyn i ysgolion symud i'r lefel risg 'uchel iawn' ar y fframwaith rheoli heintiau ysgolion.
"Ar lefel ysgol, gallai hyn weld amserau cychwyn a gorffen cyfnodol o ddechrau'r tymor newydd fel lliniariad ychwanegol yn ogystal ag ailgyflwyno grwpiau cyswllt ac o bosib oedi'r ddarpariaeth clybiau ar ôl ysgol/brecwast, neu chwaraeon tîm lle bo angen.
"Gwneir y penderfyniadau hyn ar sail asesiad risg pob ysgol unigol. Cefnogwch ein penaethiaid os gwelwch yn dda pan fydd yn rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hyn."
Yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, gofynnir i staff a disgyblion wneud prawf llif unffordd (LFT) dair gwaith yr wythnos yn lle dwywaith.
Dylai'r holl staff a disgyblion oedran uwchradd barhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol ac ystafelloedd dosbarth lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, yn ogystal ag ar gludiant ysgol, a chaiff y rheolau hyn eu hadolygu'n barhaol.
Bydd teuluoedd y disgyblion hynny a chanddynt hawl i brydau ysgol am ddim yn derbyn taliadau yn ystod gwyliau'r Nadolig ac ar y ddau ddiwrnod ychwanegol, caiff parseli bwyd eu dosbarthu i gartrefi'r rheini sydd wedi dewis yr opsiwn hwnnw.