Darganfyddwch gyfleoedd gwaith trwy brosiect Sgwâr y Castell
Bydd gan fusnesau lleol gyfle i ddarganfod sut y gallant elwa o brosiect mawr i drawsnewid Sgwâr y Castell yn Abertawe'n fuan.


Bydd Knights Brown - y mae Cyngor Abertawe wedi'i benodi fel prif gontractwr y cynllun - yn cynnal digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr yn stadiwm Swansea.com rhwng 9.30am a chanol dydd ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf.
Bydd y digwyddiad, a drefnir mewn partneriaeth â Busnes Cymru, yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n cynnwys gwaith saer maen, creu palmentydd, tirlunio meddal, gwaith seiliau, gwaith saer, diddosi a gosod canllawiau.
Mae pecynnau gwaith eraill ar gyfer y cynllun yn cynnwys gosod goleuadau allanol, draenio, gwaith dur, creu nodwedd ddŵr, gosod toeon gwyrdd, gosod cladin copr, arllwys morter llyfn ar ddecin metel, gwaith concrit cyfnerthedig, gosod llenfuriau a chyflwyno sgrin ac adeiledd clyweledol.
Mae gwaith paratoi bellach wedi dechrau ar y safle ar gyfer y trawsnewidiad, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd 2026.
Bydd Sgwâr y Castell wedi'i ailwampio yn cynnwys mwy o wyrddni, gan gynnwys lawntiau newydd a phlanhigion addurnol a bioamrywiol i ddarparu ardal y mae 40% ohoni'n cynnwys mannau gwyrdd. Cynllunnir dau bafiliwn newydd ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu.
Bydd nodwedd ddŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol hefyd yno, yn ogystal â sgrin deledu enfawr newydd uwchben cyfleuster tebyg i safle seindorf, ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored a lle sydd wedi'i gadw at ddefnydd y cyhoedd.
Ewch yma am fwy o wybodaeth a'r cyfle i gadw'ch lle yn y digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr.