Fideo'n dangos y gwelliannau a gynlluniwyd ar gyfer safle allweddol yng nghanol y ddinas
Mae fideo trawiadol newydd yn dangos sut y bydd hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn Abertawe'n edrych ar ôl i'r cynllun gwella dros dro sydd ar waith yno gael ei gwblhau.
Mae'r cynllun dros dro a gynlluniwyd ar gyfer y safle'n cynnwys masnachwyr lleol dros dro, parc dros dro a digon o fannau gwyrdd at ddefnydd y cyhoedd ac ar gyfer digwyddiadau.
Disgwylir i'r gwaith ar y cynllun dros dro ddechrau yn y misoedd nesaf, a bydd yn cysylltu canol y ddinas ag ardal newydd cam un £135m Bae Copr yn well.
Cyngor Abertawe sy'n datblygu'r cynllun. Gallwch wylio'r fideo, a grëwyd ar ran y cyngor gan y cwmni o Abertawe, iCreate, yma - www.bit.ly/SCnorthFlyW
Mae'r cyngor wedi penodi Urban Splash fel ei bartner datblygu i wneud y gwaith ailddatblygu mawr ar y safle hwn dros y blynyddoedd nesaf. Yn ogystal â hwb sector cyhoeddus ar gyfer miloedd o weithwyr, gallai cynlluniau tymor hwy ar gyfer y safle gynnwys swyddfeydd a fflatiau newydd fel rhan o ddatblygiad defnydd cymysg.
Mae'r fideo rhithiol o'r awyr diweddaraf yn dangos y neuadd eglwys newydd sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar gyfer defnyddwyr Eglwys Dewi Sant. Mae nodweddion eraill y fideo rhithiol o'r awyr yn cynnwys colofnau goleuo newydd a fydd yn arwain y ffordd i Arena Abertawe.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym wedi penodi Urban Splash i arwain ar y gwaith ailddatblygu cyffrous ar y safle, ond hoffem hefyd gynnig ateb dros dro bywiog a deniadol yn y cyfamser.
"Mae ein fideo newydd yn dangos ein cynlluniau i gyflwyno llawer mwy o wyrddni ar y safle yn y tymor byr, ynghyd â chyfleoedd i fasnachwyr bwyd a diod lleol dros dro a diogon o fannau a fydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd ac ar gyfer digwyddiadau.
"Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau bydd yr ateb dros dro hwn yn creu cyswllt llawer gwell rhwng canol y ddinas a'n hardal cam un Bae Copr sy'n cynnwys Arena Abertawe."
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies,"Bydd y cynllun dros dro yn hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn ategu'r holl waith rydym eisoes yn ei wneud i greu mwy o fannau gwyrdd yng nghanol y ddinas, er budd ein preswylwyr, ein busnesau a'n hymwelwyr."
Mae'r cyngor yn arwain ar y gwaith gwerth £1bn i adfywio canol y ddinas.
Llun: Llun llonydd o'r fideo newydd yn dangos sut y gallai hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant Abertawe edrych cyn bo hir. Llun: iCreate