Toglo gwelededd dewislen symudol

Saer coed a chynorthwyydd rhithwir yn elwa o gyllid ar gyfer busnesau newydd

Mae saer coed a chynorthwyydd rhithwir ymhlith dros 50 o fusnesau newydd yn Abertawe sydd wedi elwa o gymorth ariannol ar gyfer busnesau newydd yn ystod y chwe mis diwethaf.

Charly Cope

Edward Enticknap

Roedd grantiau o hyd at £1,000 ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus yn rownd ddiweddaraf cynllun a gynhelir gan Gyngor Abertawe ac a ariannwyd gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.

Er bod y cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun bellach wedi dod i ben, mae disgwyl i ragor o gymorth ariannol ar gyfer busnesau newydd yn Abertawe gael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mae Edward Enticknap o Dreforys ymhlith y rheini sydd wedi elwa yn ystod y misoedd diwethaf. Defnyddiodd y cyllid ar gyfer busnesau newydd i helpu gyda chostau sefydlu ei fusnes celfi pren a wnaed â llaw a gwasanaethau gwaith coed cyffredinol, a elwir ynEdward's Bespoke Carpentry.

Meddai Edward, "Cefais hyfforddiant prentisiaeth mewn gwneud patrymau ffowndri, sy'n fath arbenigol o waith coed sy'n gwneud atgynyrchiadau pren o wrthrychau i'w castio mewn metel.

"Rwyf hefyd wedi dysgu gwaith coed a saernïaeth ond rwyf wedi bod i ffwrdd o'r gweithle am rai blynyddoedd, yn helpu i fagu teulu ifanc.

"Roeddwn hefyd yn dioddef o iselder a gorbryder a achoswyd gan brofedigaeth, a chefais fy nghyfeirio i ddechrau gan fy meddyg teulu i brosiect cyflogadwyedd Gweithffyrdd+ sy'n cael ei gynnal gan y cyngor.

"Nid wyf wedi edrych yn ôl, gyda chyllid gan y cyngor a Busnes Cymru yn helpu i dalu costau dechrau fy musnes.

"Yn bennaf, gwaith adnewyddu eiddo a gwaith coed cyffredinol llai rwyf wedi bod yn ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf wrth sefydlu'r busnes newydd, er mae gen i le penodol erbyn hyn lle gallaf wneud cynhyrchion i'w gwerthu, gan gynnwys podiau gwersylla a chytiau bugeiliaid, er enghraifft.

"Rwyf bellach yn fy lle hapus."

Gwnaeth Charly Cope o Lansamlet hefyd elwa o grant sefydlu a helpodd i dalu am liniadur a chlustffonau newydd ar gyfer ei busnes,Charly Cope Virtual Assistant.

Mae'r busnes, a sefydlwyd yn yr haf, yn darparu cymorth gweithredol i gleientiaid gan gynnwys rheoli dyddiaduron a chyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu adroddiadau, cynllunio digwyddiadau a phrawfddarllen.

Meddai Charly, "Rwyf wedi bod yn gweithio o bell ers blynyddoedd lawer, ond mae'r diwydiant cynorthwywyr rhithwir wir wedi dechrau datblygu - yn enwedig yn ystod y pandemig, a dyna pryd sylwais ar y cyfle gyntaf.

"Mae rhai pobl yn cael eu digalonni gan feddwl bod gormod o waith papur wrth wneud cais am gyllid o'r math hwn, ond ni ddylent deimlo felly gan fod y broses yn eithaf syml.

"Roedd yn wych ymdrin â thîm cymorth busnes y cyngor - roeddent yn gyflym iawn ac yn hynod gymwynasgar.

"Cefais fy nghleient cyntaf o fewn wythnos i sefydlu ac mae eraill wedi dilyn, felly rwy'n falch iawn fy mod wedi gwneud y penderfyniad pan wnes i."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Rydym yn cydnabod y cyfraniad y mae ein busnesau yn ei wneud i economi'r ddinas, a dyna pam rydym wrth law i ddarparu cymaint o gymorth â phosib i fusnesau newydd a busnesau o bob maint.

"Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i'r ddinas adfer o effaith y pandemig, gyda llawer o fusnesau hefyd bellach yn wynebu biliau ynni a biliau eraill drutach wrth i'r argyfwng costau byw gydio."

Mae cymorth parhaus arall gan Gyngor Abertawe ar gyfer busnesau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli yn cynnwys clwb menter i fusnesau newydd am ddim a digwyddiadau awr bŵer gydag awgrymiadau arbenigol ar bynciau'n amrywio o gyfryngau cymdeithasol ac ystyriaethau cyfreithiol i gyfraith cyflogaeth a seiberddiogelwch.

Ewch i abertawe.gov.uk/cyngorbusnes am ragor o wybodaeth.