Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad yn Abertawe i fusnesau a darpar entrepreneuriaid

Cynhelir digwyddiad mawr yn Abertawe yr wythnos nesaf i fusnesau a darpar entrepreneuriaid.

Start-Up Expo

Start-Up Expo

Mae'r digwyddiad Start-Up Expo 2025sydd am ddim, a drefnir gan 4 The Region, ar gyfer pobl o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe sydd naill ai'n ystyried dechrau busnes neu sydd eisoes yn bobl fusnes sy'n chwilio am gyngor, ysbrydoliaeth a chysylltiadau.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir yn Arena Abertawe ddydd Mercher 5 Mawrth, yn rhoi cyfle i bobl glywed gan entrepreneuriaid lleol, cael gwybod am y cyllid a'r gefnogaeth sydd ar gael a chwrdd â sefydliadau a all roi cyngor ar fusnes am ddim.

Bydd nifer o arddangoswyr wrth law hefyd a chynhelir gweithdai ar ystod o bynciau gan gynnwys rheoli cyfrifon ac awgrymiadau da ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

Cefnogir y digwyddiad gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae partneriaid a noddwyr eraill y digwyddiad yn cynnwys Prifysgol Abertawe a phrosiect 'Scale' Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy'n darparu cefnogaeth i fusnesau bach ac entrepreneuriaid.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r digwyddiad hwn yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg y llynedd a ddenodd yn agos i 350 o ddarpar entrepreneuriaid o bob rhan o Abertawe a De-orllewin Cymru.

"Bydd digwyddiad Start-Up Expo 2025 eto'n cynnig siop dan yr unto i fusnesau presennol ac unrhyw un â diddordeb mewn sefydlu busnes i gael gwybod mwy am ffynonellau ariannu a chefnogaeth yn ogystal ag argymhellion am farchnata digidol a phynciau defnyddiol eraill.

"Rydym yn falch o fod yn bartner y digwyddiad unwaith eto a byddem yn annog cynifer o fusnesau a phobl fusnes uchelgeisiol â phosib i ddod iddo."

Ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a'r cyfle i archebu tocyn am ddim.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Chwefror 2025