Entrepreneuriaid Abertawe'n gwneud yn wych diolch i gymorth gan y cyngor
Ar ôl mwy na 30 mlynedd yn cadw pobl yn ddiogel ar y ddaear, mae'r cyn-ddiffoddwr tân o Abertawe Keith Miles bellach yn cyrraedd uchelfannau newydd - yn llythrennol.
Mae'n un o sawl entrepreneur lleol, gan gynnwys y tîm y tu ôl i siop gludfwyd Macro Shack sy'n gweini prydau iachus, sydd wedi cael llwyddiant diolch i wasanaeth cymorth busnes Cyngor Abertawe.
Mae Keith, sy'n 59 oed, wedi lansio ei fusnes ffotograffiaeth a fideograffiaeth o'r awyr ei hun, Elite Drone Photography, sy'n tynnu lluniau a fideos syfrdanol o Abertawe a thu hwnt.
Roedd Keith, sydd o Townhill yn wreiddiol ac sydd bellach yn byw ym Mhontlliw, wedi gweithio yng ngorsafoedd tân Abertawe Ganolog, Castell-nedd a Sgeti cyn iddo ymddeol o'r gwasanaeth tân.
Gyda help gan Fusnes Cymru a grant dechrau busnes Cyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, roedd wedi gallu prynu dronau a chyfarpar cyfrifiadurol, ac ennill ei gymhwyster hedfan dronau mewn ysgol nos.
Ers lansio'r busnes, mae Keith wedi cwblhau prosiectau drôn a fideo ar gyfer Ysgol Gynradd Pontlliw, Llys Nini, Canolfan Ganser Felindre, a The Social Butterfly Marketing.
Meddai Keith, tad i ddau sydd hefyd yn gweithio fel gofalwr rhan-amser yn Ysgol Gynradd Pontlliw, "Roedd dechrau busnes newydd yn frawychus, ond gwnaeth tîm cefnogi busnes Cyngor Abertawe fy helpu ar bob cam o'r ffordd.
"Byddwn i wrth fy modd yn arddangos mwy o Abertawe o'r awyr - mae'n lle gwych, ac rwy'n falch i'w alw'n gartref."
Er bod y cyfle i wneud ceisiadau i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol bellach wedi dod i ben, mae ffigurau'n dangos bod mwy na 200 o fusnesau yn Abertawe wedi elwa o arian grant yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae eraill yn cynnwys Macro Shack, siop gludfwyd ar Orchard Street sy'n arbenigo mewn prydau iachus sy'n addas i'r rheini sy'n mynd i'r gampfa.
Mae'r fwydlen yn cynnwys byrgyrs, burritos a diodydd protein, gydag opsiynau figan a braster isel hefyd ar gael, sy'n golygu bod rhywbeth ar gael i'r rheini sy'n mynd i'r gampfa ac unrhyw un sy'n chwilio am brydau blasus a chytbwys.
Meddai Liam Mills, Cyd-berchennog Macro Shack, "Roedd y grant cyn dechrau busnes wedi ein galluogi ni i brynu cyfarpar cegin newydd. Roedd gwneud cais am y grant yn broses gyflym ac roedd tîm cymorth busnes y cyngor wedi helpu'n fawr."
Meddai'r Cynghorydd David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gyflwyno, "Mae'r straeon hyn yn enghreifftiau gwych o sut mae preswylwyr Abertawe'n defnyddio ein grantiau busnes i ddilyn diddordebau newydd a chreu mentrau lleol cyffrous.
"Dylid canmol eu harloesedd a'u gwaith caled - ac mae'n rhaid i ni ganmol ein tîm cymorth busnes hefyd am eu gwaith diflino y tu ôl i'r llenni i helpu eraill i lwyddo."
Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes am ragor o wybodaeth am wasanaeth cymorth busnes Cyngor Abertawe.
