Aelodau o grwpiau cymunedol yn creu celf cyhoeddus yng nghanol y ddinas
Mae gwaith celf cyhoeddus a ysbrydolwyd gan dreftadaeth, dyngarwch ac amrywiaeth pobl Abertawe'n difyrru'r rhai hynny sy'n siopa ac yn gweithio yng nghanol y ddinas.


Fe'i gosodwyd ar hysbysfyrddau o gwmpas adeilad Y Storfa wrth iddo gael ei ddatblygu ar gornel Stryd Rhydychen a Princess Way.
Daeth y cyfranogwyr cymunedol o grwpiau megis Llyfrgelloedd Abertawe a Chymorth Ceiswyr Lloches Abertawe (SASS), yn ogystal â gwasanaethau'r cyngor ar gyfer dysgu gydol oes ac oedolion ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd dysgu.
Cawsant gymorth dros sawl mis gan Natalie Hemingway, artist proffesiynol sy'n byw yn ne Cymru.
Cafodd y gweithgareddau eu hariannu gan Kier, contractwyr Y Storfa, a'u rheoli gan Gyngor Abertawe, sy'n datblygu'r Storfa fel hwb gwasanaethau cymunedol, gan gynnwys llyfrgell ganolog. Y bwriad yw agor y lleoliad eleni.
Daeth y cyfranogwyr ynghyd y tu allan i'r Storfa i ddathlu eu gwaith wrth iddo gael ei arddangos i ymwelwyr â chanol y ddinas ei fwynhau.
Meddai Elliott King, aelod o Gabinet y cyngor, "Rwyf wrth fy modd bod amrywiaeth eang o unigolion wedi dod ynghyd i greu'r gwaith celf cyhoeddus gwych newydd hwn."
Meddai'r artist Natalie Hemingway: "Roedd yn bleser gweithio gyda phawb ar y prosiect hwn. Gwnaethant ymffrostio yn hanes yr ardal a dysgu sgiliau newydd."
Roedd ffynonellau'r gwaith celf yn cynnwys lluniau a mapiau o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, a reolir gan y cyngor.
Mae'n rhan o brosiect Eich Storfa, Eich Stori sy'n adrodd straeon yr adeilad - hen adeilad BHS (British Home Stores) - a'r ardal gyfagos.
Mae Eich Storfa, Eich Stori'n cael ei reoli gan dîm Gwasanaethau Diwylliannol y cyngor, gyda mewnbwn gan dimau eraill y cyngor a grwpiau cymunedol.
Mae arianwyr Y Storfa yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.