Fideo wedi'i ryddhau i arddangos datblygiad mawr newydd yn Abertawe
Mae fideo o'r awyr newydd wedi'i ryddhau i roi cyfle i bobl weld yn union sut y bydd datblygiad mawr yng nghanol dinas Abertawe'n ymddangos pan fydd yn agor yn hwyrach eleni.


Bydd hwb gwasanaethau cymunedol Y Storfa, sy'n cael ei ddatblygu yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen, yn gartref i gyfleusterau fel llyfrgell ganolog newydd.
Bydd y cynllun a arweinir gan Gyngor Abertawe, gyda Kier Group yn brif gontractwr ar ei gyfer, hefyd yn cynnwys gwasanaethau eraill sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor fel y Ganolfan Gyswllt, Opsiynau Tai, Dysgu Gydol Oes a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Disgwylir i denantiaid yr adeilad nad ydynt yn denantiaid y cyngor gynnwys Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth a Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe.
Mae'r fideo o'r awyr newydd yn dangos gwedd allanol trawiadol yr adeilad wrth dynnu sylw at ei fannau mewnol croesawgar, gan gynnwys y brif dderbynfa, llyfrgell i blant, llyfrgell cynllun agored, canolfan gyswllt, ardal Gyrfa Cymru, ystafelloedd cyfarfod, a lle cynadledda a digwyddiadau modern.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae angen cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol dinas Abertawe i gefnogi ein masnachwyr presennol a denu siopau newydd a busnesau eraill yn y dyfodol.
"Dyna pam y mae rhaglen adfywio gwerth £1bn yn mynd rhagddi, gyda disgwyl i gynlluniau fel Y Storfa gyfuno â llawer o rai eraill i ddenu rhagor o bobl yno.
"Mae'r fideo o'r awyr newydd yn dangos graddfa'r hyn sydd i ddod.
"Bydd Y Storfa yn fan lle gall pobl ddod at ei gilydd - i ddysgu, cael mynediad at wasanaethau pwysig neu gymryd rhan mewn bywyd cymunedol mewn lle modern a chroesawgar.
"Drwy ddod â gwasanaethau fel y llyfrgell, yr archifau, Opsiynau Tai a Gyrfa Cymru at ei gilydd o dan yr un to, bydd yn gwneud bywyd yn haws i lawer o breswylwyr ac yn creu cyfleoedd i bobl o bob oedran."
Mae datblygiad Y Storfa yn agos at feysydd parcio, safleoedd bysus a llwybrau beicio. Bydd dyddiad agor yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, ynghyd â gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau'r cyngor a fydd yn adleoli yno.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Bydd agor datblygiad Y Storfa yn galluogi ailddatblygu safle'r Ganolfan Ddinesig ar y glannau wrth i'r gwaith i adfywio Abertawe barhau.
"Mae ein partneriaid adfywio, Urban Splash, yn parhau i weithio ar gynigion ar gyfer y safle hwnnw, a fydd ar gael ar gyfer adborth cyn gynted ag y byddant yn barod.
"Byddwn hefyd yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd yn yr wythnosau sy'n dod ynghylch unrhyw beth a all effeithio arnynt wrth i nifer o wasanaethau'r cyngor baratoi i symud o'r Ganolfan Ddinesig i'r Storfa."
Mae arianwyr Y Storfa yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/ystorfa am ragor o wybodaeth.