Prosiect canol y ddinas yn creu cyfleoedd gwaith newydd
Mae datblygiad proffil uchel yng nghanol y ddinas wedi dod â gwaith i gannoedd o bobl - gan gynnwys rhai a oedd wedi wynebu rhwystrau i gyflogaeth neu a fu'n ddi-waith yn flaenorol.


Mae hyd at 45 o bobl y dydd, yn weithlu ac yn is-gontractwyr Kier Group, yn gweithio ar brosiect Y Storfa Cyngor Abertawe.
Yn eu plith y mae gweithwyr a logwyd gan y cwmni yn nyddiau cynnar y cynllun ac a gynorthwywyd i gael gwaith drwy'r fenter buddion cymunedol Y Tu Hwnt i Frics a Morter.
Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd Y Storfa yn rhan allweddol o waith gwerth £1bn y cyngor i adfywio Abertawe; bydd yn fan ymgynnull ac yn ffynhonnell wybodaeth i bobl o bob rhan o'r ddinas
Mae'r rheolwr safle dan hyfforddiant, Jack Shaddick, yn brentis gradd Kier sy'n astudio rheoli adeiladu.
Ac yntau'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, meddai, "Rwy'n falch o fod yn gweithio ar adeilad mor bwysig yn fy ninas enedigol."
Mae Joe Eynon ar leoliad 12 mis gyda Kier, yn arbenigo mewn rheoli dyluniadau.
Ac yntau'n fyfyriwr peirianneg bensaernïol ym Mhrifysgol Plymouth, meddai, "Cefais fy nenu i'r diwydiant adeiladu gan ei fod yn cynnig y gallu i wneud trefi a dinasoedd yn fwy deniadol a llesol i'r amgylchedd."
Mae Andy Gough o Abertawe yn labrwr, yn farsial traffig ac yn weithredwr lifft.
Mae ei brofiad blaenorol yn cynnwys gwaith warws a ffatri. Meddai, "Ar ôl bod yn ddi-waith am ryw saith mis, mae'r cyfle hwn gyda'r Storfa yn cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd."
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliot King, "Mae'n wych gweld cyfleoedd gwaith newydd yn dod o ganlyniad i'r cysylltiad rhwng y fenter Y Tu Hwnt i Frics a Morter a datblygiad gwych Y Storfa.
"Mae'n dangos ein hymagwedd gyfannol at adfywio sy'n caniatáu i gymunedau lleol elwa o brosiectau adfywio ffisegol, yn enwedig helpu pobl i ddod o hyd i waith."
Meddai Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol yn Kier, "Rydym yn hynod falch o'r tîm sydd gennym yn gweithio ar Y Storfa.
"Mae'n wych clywed ein bod yn cael effaith mor gadarnhaol ar fywydau pobl yn yr ardal a byddwn yn ymdrechu i barhau i wneud hynny."
Disgwylir i adeilad Y Storfa, yn hen siop BHS ar gornel Stryd Rhydychen a Princess Way, gael ei gwblhau eleni.
Bydd gwasanaethau a gynhelir gan y cyngor yno'n cynnwys y Ganolfan Gyswllt, Opsiynau Tai, Dysgu Gydol Oes, y brif lyfrgell gyhoeddus â llyfrgell newydd i blant yn ogystal â Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ac adnoddau defnyddiol eraill.
Bydd tenantiaid Y Storfa nad ydynt yn denantiaid y cyngor yn cynnwys swyddfa Gyrfa Cymru, prif ganolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot a Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe.
Bydd yn annog rhagor o bobl i ymweld â busnesau lleol wrth i'r cyngor barhau a'i raglen adfywio gwerth £1bn.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd Y Storfa gerllaw Sgwâr y Castell a fydd hefyd yn cael ei weddnewid gyda rhagor o wyrddni, wrth wraidd ein hymgyrch adfywio.
"Mae'n wych gweld cynnydd yn cael ei wneud wrth i ni ail-bwrpasu'r safle mawr hwn yng nghanol y ddinas ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
"Mae'r ardal hon o ganol y ddinas yn cael ei thrawsnewid gyda chymysgedd da o fuddsoddiad gan y sectorau cyhoeddus a phreifat."
Mae arianwyr Y Storfa yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Llun: Aelodau o weithlu Kier yn Y Storfa, o'r chwith: Jack Shaddick, Joe Eynon, Andy Gough.