Gwaith yn symud yn ei flaen wrth i waith trawsnewid hen adeilad BHS ddwysáu
Mae lluniau newydd yn dangos sut mae hen adeilad poblogaidd yng nghanol dinas Abertawe'n dechrau newid wrth iddo baratoi am ddyfodol cyffrous.
![Kier on site at Y Storfa](/image/14842/StorfaKier/standard.jpg?m=1698664903277)
![Kier on site at Y Storfa](/image/14842/StorfaKier/gi-responsive__100.jpg?m=1698664903277)
Mae'r contractwyr Keir,sy'n gweithio ar ran Cyngor Abertawe, wedi dechrau trawsnewid hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen.
Ei enw newydd fydd Y Storfa - a bydd yn hwb gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn denu miloedd o ymwelwyr bob wythnos.
Bydd o fewn pellter byr o safleoedd bysus, llwybrau beicio a meysydd parcio, a bydd yn gartref i wasanaethau fel prif lyfrgell gyhoeddus y ddinas a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, gwasanaeth Gyrfa Cymru Abertawe a Chyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Cyhoeddir gwasanaethau eraill y gall y cyhoedd gael mynediad atynt yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd Y Storfa - sy'n rhan o waith adnewyddu parhaus Abertawe a arweinir gan y cyngor ac sy'n werth £1 biliwn - yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus ac adnoddau defnyddiol.
Mae lluniau newydd o'r tu mewn i'r adeilad yn dangos bod Kier eisoes wedi cael gwared ar sawl rhan anstrwythurol o'r ardal fewnol a rhai o'r ardaloedd sy'n wynebu'r stryd.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych gweld bod yr adeilad hwn yn y camau cynnar iawn o'i broses drawsnewid."
Meddai Jason Taylor, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales, "Bydd Y Storfa'n cynyddu mannau cyhoeddus angenrheidiol yng nghanol y ddinas."
Mae'r contractwyr yn bwriadu achosi cyn lleied o anghyfleustra ag sy'n bosib.
Mae croeso i'r rheini sydd â chwestiynau am y gwaith - neu sydd â syniadau ynghylch sut gall Keir gefnogi achosion a digwyddiadau lleol lle bo hynny'n bosib - ffonio Jenny Jones ar 07966 861721.
Bydd rhai o wasanaethau'r cyngor yn symud i'r Storfa o'r Ganolfan Ddinesig, a disgwylir iddi gael ei hailddatblygu.
Llun Gwaith yn mynd rhagddo yn Y Storfa.