Bywyd newydd i siopau'r Stryd Fawr
Mae cryn gynnydd wedi'i wneud wrth adnewyddu rhes o hen adeiladau masnachol ar y Stryd Fawr fel y gellir eu defnyddio eto.


Cyngor Abertawe sy'n adnewyddu'r adeiladau, a gofynnwyd i breswylwyr a grwpiau cymunedol am awgrymiadau ar sut y gellir eu defnyddio.
Byddant yn barod i'w hagor cyn bo hir ac mae cynlluniau'n cynnwys caffi cymunedol a lle ar gyfer busnesau dros dro yn ogystal â gweithgareddau hamdden.
Mae elusennau a sefydliadau trydydd parti eraill hefyd am ddefnyddio'r cyfleusterau, ynghyd â gwasanaethau'r cyngor.
Ymwelodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, yr wythnos hon i wirio'r cynnydd.
Meddai, "Mae'r trawsnewidiad yn anhygoel ac rwy'n gwybod bod llawer yn edrych ymlaen at weld yr adeiladau hyn yn agor a dechrau eu defnyddio.
"Rydym yn mynd i gael caffi cymdeithasol gwych gydag ardal awyr agored hyfryd ac mae llawer o brosiectau eraill sydd am fod yn rhan o hyn.
"Mae'r unedau'n lle diogel ar gyfer gwaith allgymorth ac ymgysylltu â phobl ifanc yn ogystal â hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer cyflogadwyedd.
"Yr hyn sy'n bwysig i ni yw mai penderfyniad y gymuned yw beth sy'n dod yma a sut caiff yr adeiladau eu defnyddio.
"Bydd yn tyfu'n naturiol a bydd y cyngor yn gwneud popeth y gall i gefnogi eu cynlluniau a'u syniadau.
"Rwy'n hynod gyffrous am y potensial ac yn falch iawn o fod yn rhan o'r gwaith partneriaeth hwn."
Gall unrhyw un â syniadau sydd heb gysylltu eto neu sydd am fod yn rhan o'r cynllun e-bostio: ourswanseahighstreet@gmail.com