Cyllid yn cefnogi cannoedd o weithgareddau a phrydau bwyd i ddisgyblion yn ystod gwyliau'r ysgol
Bydd mwy na 190 o grwpiau yn Abertawe'n rhannu dros £400,000 o gyllid i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau rhad neu am ddim i deuluoedd a phobl hŷn, ac i ddarparu prydau bwyd i blant oedran ysgol y mae eu hangen arnynt yn ystod gwyliau'r haf.


Bydd cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd roi cynnig ar weithgareddau byw yn y gwyllt, sesiynau chwarae, jiwdo, criced, dringo creigiau, syrffio, beicio, y celfyddydau, drama, diwrnodau hwyl cymunedol a llawer mwy.
Bydd hefyd lawer o gyfleoedd i bobl hŷn gadw'n actif a chymdeithasu.
Mae canolfannau cymunedol, ysgolion cynradd, darparwyr hamdden, cyfeillion parciau a grwpiau cymunedol ar lawr gwlad ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Amcangyfrifi y bydd mwy na 50,000 o brydau bwyd yn cael eu darparu i ddisgyblion yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol at y cynnig bysus am ddim i bawb a fydd ar gael bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 19 ac 31 Gorffennaf, a fydd yn arbed £20 y dydd i deulu o bedwar.
Mae'r cyfan yn rhan o becyn cymorth cynhwysfawr y cyngor dan ymgyrch #YmaIChiYrHafHwn.