Toglo gwelededd dewislen symudol

Haf o hwyl gwych ar ddod yn Abertawe

Disgwylir i haf o hwyl gwych Abertawe barhau dros yr wythnosau nesaf yn dilyn llwyddiant aruthrol Sioe Awyr Cymru.

Ironman

Ironman

Digwyddiad deuddydd Sioe Awyr Cymru yw'r digwyddiad blynyddol am ddim mwyaf yng Nghymru a daeth miloedd ar filoedd o bobl i ardal prom y ddinas i'w fwynhau dros y penwythnos.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, ei fod yn bleser gweld bod y sioe hynod boblogaidd wedi dychwelyd eleni yn dilyn saib o ddwy flynedd oherwydd y pandemig.

Roedd y sioe'n nodi dechrau blwyddyn ddigynsail o adloniant a chwaraeon gwych a gynhelir ar draws y ddinas.

Meddai, "Mae gennym amrywiaeth ardderchog o ddigwyddiadau eraill sydd ar ddod, gan gynnwys perfformiadau cerddorol poblogaidd gan Nile Rodgers a Chic, Paul Weller ac Anne-Marie, a fydd yn perfformio ym Mharc Singleton yr haf hwn.

"Mae hyn yn ogystal ag arwr y byd roc, Elton John, a berfformiodd yn stadiwm Swansea.com yr wythnos diwethaf fel rhan o'i daith ffarwelio ar draws y byd.

"Bydd hefyd ddigwyddiadau rhyngwladol am ddim i wylwyr, fel Ironman 70.3 Abertawe, Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe a'r Ŵyl Parachwaraeon, y mae'r cyfan yn cael eu cynnal yn y ddinas ym mis Awst."  

Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Gwnaeth y cyngor ymrwymiad polisi i sicrhau mai 2022 fyddai'r flwyddyn orau erioed am chwaraeon ac adloniant cyffrous o'r radd flaenaf yn ein dinas yn dilyn dwy flynedd o'r pandemig. Trwy weithio gyda'n partneriaid a hyrwyddwyr digwyddiadau, rydym yn cyflawni'r addewid hon."

Ychwanegodd, "Bydd digwyddiadau cyffrous dan do hefyd, yn ogystal ag yn yr awyr agored gan y bydd hyn i gyd yn cael ei gynnal rhyw dafliad carreg o Theatr y Grand ac Arena Abertawe, lle bydd detholiad anhygoel o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal.

"Caiff ein holl ddigwyddiadau eu cefnogi gan ein timau Marchnata Cyrchfannau, a fydd yn rhannu newyddion am y croeso mawr i Abertawe ar draws y DU. Rydym yn cefnogi busnesau twristiaeth ac adloniant lleol a hoffem i bawb sy'n trefnu gwyliau gartref yng Nghymru a'r DU wybod am hynny."

Bydd y cyngor hefyd yn cefnogi digwyddiadau a drefnwyd gan grwpiau a sefydliadau eraill - o deithiau beicio cymunedol i dreiathlonau a deuathlonau.

Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Mae ein digwyddiadau arbennig yn cynnwys perfformiad gala yn Theatr y Grand Abertawe i ddathlu ei phen-blwydd yn 125 oed a dychweliad Gŵyl Abertawe yn Neuadd Brangwyn.

Ychwanegodd, "Yn dilyn dathliadau Jiwbilî'r Frenhines, byddwn hefyd yn gweld dychweliad digwyddiadau poblogaidd, gan gynnwys gwyliau bwyd a sinema awyr agored."

Dywedodd y Cyng. Francis-Davies y bydd y cyngor hefyd yn helpu i gynnal tair rhaglen ddiwylliant genedlaethol a fydd yn cael eu cyflwyno ar draws y ddinas drwy gydol mis Hydref.

Meddai, "Rhaglen celfyddydau cyhoeddus ac addysg ryngwladol yw The World Reimagined, a fydd yn canolbwyntio ar ddeall ein hanesion cyffredin yn well er mwyn gwneud cyfiawnder hiliol yn realiti.

"Cynhelir y rhaglen addysg a chymuned drwy gydol yr haf a bydd yn arwain at greu llwybr anhygoel o globau mewn lleoliadau allweddol, a fydd yn atyniad dros dro i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd ei fwynhau."

Cynhelir The World Reimagined ochr yn ochr â dau brosiect mawr, UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU - dathliad cenedlaethol o greadigrwydd Prydeinig.

Fel rhan o'r prosiect cyntaf, bydd Abertawe'n cynnal yr holl gomisiynau a geir ar draws  Cymru a'r DU, gan gynnwys llwybr cerdded gan yr Asiantaeth Ddarllen a fydd yn gweithio gyda'n llyfrgelloedd a rhith realiti a realiti estynedig i ddod â darllen ac adrodd straeon yn fyw.

Enw'r ail brosiect yw GALWAD: Stori o'n Dyfodol. Fe'i cynhyrchir gan Collective Cymru a bydd yn cynnwys perfformiad newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru, a fydd yn gorffen gyda pherfformiad cyhoeddus y gellir ymgolli ynddo yng nghanol dinas Abertawe."

Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Yn ystod misoedd olaf y flwyddyn cynhelir ein ras 10k Bae Abertawe Admiral hynod boblogaidd ym mis Medi, yr arddangosfa tân gwyllt flynyddol a Gorymdaith y Nadolig na ddylid ei cholli ym mis Tachwedd.

"Bydd yr holl ddigwyddiadau hyn yn dangos bod Abertawe yn barod i roi'r croeso cynhesaf i'w hymwelwyr eleni a bydd hefyd yn rhoi hwb enfawr i'r digwyddiadau a'r sectorau twristiaeth a lletygarwch ar ôl dwy flynedd anodd."

I gael rhagor o wybodaeth am Abertawe fel cyrchfan digwyddiadau i ymwelwyr, ewch i www.croesobaeabertawe.com/events/