Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithgareddau ac atyniadau'r cyngor yn cynnig hwyl yr haf

​​​​​​​Bydd teuluoedd ar draws Abertawe'n manteisio ar weithgareddau ac atyniadau difyr a gynhelir gan y cyngor yr haf hwn.

Crazy Golf at Singleton Park

Crazy Golf at Singleton Park

Gyda gwyliau haf ysgolion lleol yn dechrau yn y diwrnodau nesaf, mae Cyngor Abertawe am sicrhau bod rhywbeth i bawb.

Mae'r pethau sydd ar gael i'w gwneud yn ystod y seibiant hir yn cynnwys gweithgareddau cost isel ac am ddim, ac ymweliadau â lleoliadau difyr.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae llawer i'w wneud a'i weld yn Abertawe'r haf hwn. Ni fydd rhaid i deuluoedd fynd yn bell i ddod o hyd i hwyl ac adloniant."

Mae parciau a thraethau niferus y cyngor - y mae gan dri ohonynt statws y faner las - yn wych ar gyfer picnics ac anturiaethau.

Mae atyniadau awyr agored eraill yn cynnwys y pedalos ym Mharc Singleton, Lido Blackpill sy'n cynnig mynediad am ddim a golff gwallgof yng Ngerddi Southend yn y Mwmbwls a Pharc Singleton.

Gall y rheini sy'n dwlu ar theatr fyw fwynhau sioeau yng Nghastell Ystumllwynarth, sydd hefyd yn bwriadu cynnal Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau ar 28 Awst.

Bydd lleoliadau diwylliannol a llyfrgelloedd y cyngor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau am ddim. Maent yn cynnwys Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mwy: joiobaeabertawe.com

Cynllun gostyngiadau: http://www.bit.ly/PTLswansea

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Gorffenaf 2023