Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwnewch gais yn awr am grantiau Haf o Hwyl

Mae grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Abertawe yn cael eu hannog i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ein cymunedau'n cael haf o hwyl.

Summer of fun

Summer of fun

Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd â syniadau da i helpu plant a phobl ifanc fwynhau eu gwyliau haf.

Gall pobl sy'n trefnu digwyddiadau i blant a phobl ifanc, neu sy'n chwilio am gyfarpar defnyddiol ar gyfer eu clwb neu grwp cymunedol lleol wneud cais am yr arian sydd ar gynnig gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Ond y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 8 Mehefin, a rhaid i'r holl weithgareddau, nwyddau neu wasanaethau gael eu cyflwyno erbyn 30 Medi.

Ariennir y rhaglen Haf o Hwyl ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i cynhelir gan awdurdodau lleol i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden, adloniant, chwaraeon a diwylliannol am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. 

Croesewir ceisiadau am grantiau yn arbennig gan grwpiau sy'n gweithio gyda phlant hyd at saith oed sydd efallai'n ei chael hi'n anodd cyrraedd cerrig milltir datblygiadol a'r rheini sy'n meddwl y bydd eu gweithgareddau'n helpu i hybu iechyd a lles corfforol, emosiynol a meddwl pobl ifanc.

Gall grwpiau neu sefydliadau sydd am ehangu eu rhaglenni cyfredol wneud ceisiadau hefyd, neu gallant ddefnyddio'r grant i helpu i sicrhau bod eu prosiectau cyfredol yn parhau drwy gydol yr haf.

I wneud cais, cliciwch ar y ddolen: https://www.abertawe.gov.uk/grantHafoHwyl

Close Dewis iaith