Haf o hwyl y ddinas yn mynd rhagddo
Mae haf o hwyl wedi cychwyn yn Abertawe gyda gweithgareddau i gadw plant a phobl ifanc yn heini, yn iach ac yn hapus!
Mae tua 100 o grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill wedi derbyn cyllid gan Gyngor Abertawe drwy raglen Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, â nifer o brosiectau'r wythnos hon yn y ddinas i siarad â'r bobl ifanc sy'n elwa.
Roedd y rhain yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau cymunedol hwyl a gynhelir yng Nghanolfan y Ffenics yn Townhill a gweithgareddau am ddim, cynlluniau chwarae a gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar yng Nghanolfan Golwg y Mynydd yn Mayhill.
Mae rhaglen weithgareddau orlawn Haf o Hwyl yn cynnwys chwaraeon, celf, crefftau a phrosiectau amgylcheddol - gallwch weld y rhestr lawn a'r holl ddyddiadau, amserau a manylion ynghylch sut i gofrestru yn https://www.abertawe.gov.uk/gweithgareddaugwyliau
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Eleni mae Abertawe wedi derbyn dros £400,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ystod enfawr o weithgareddau gyda rhywbeth a ddylai apelio at holl blant a phobl ifanc y ddinas."
Meddai'r Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, "Roedd yn bleser ymweld ag Abertawe heddiw i weld drosof fy hun sut mae plant y ddinas a'u teuluoedd yn elwa o Haf o Hwyl."