Cefnogaeth enfawr i helpu teuluoedd i wneud y gorau o wyliau'r ysgol
Mae teuluoedd yn cael eu cefnogi i wneud y gorau o wyliau haf yr ysgol gyda'r rhaglen fwyaf erioed o weithgareddau am ddim ac â chymhorthdal yn Abertawe.
Mae'r cynnig bysus am ddim hefyd yn dychwelyd bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun am y gwyliau cyfan, felly gellir cyrraedd llawer o'r gweithgareddau am ddim.
Mae rhai ysgolion yn cymryd rhan yn y rhaglen Bwyd a Hwyl a ariennir gan Lywodraeth Cymru, lle mae disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr ac yn cael brecwast neu ginio iach.
Mae'r cyngor yn cefnogi prosiectau eraill gyda grantiau ar gyfer mentrau bwyd cymunedol a banciau bwyd, a hefyd gyda chludiant ar gyfer y prosiectau 'Mae Pawb yn Haeddu Haf', sy'n helpu i fwydo llawer o bobl ifanc bob haf.
Mae partneriaid y cyngor yn rhedeg clybiau brecwast ac mae rhai aelodau ward hefyd yn cefnogi clybiau brecwast a chinio yn eu wardiau.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Gwyddom fod gwyliau'r haf yn amser hwyl i deuluoedd, ond gall hefyd fod yn destun pryder i rai oherwydd y gost.
"Mae adrannau ar draws y cyngor wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod ugeiniau o weithgareddau cost isel ac am ddim ar gael i deuluoedd nes bod yr ysgolion yn ailagor, ac mae'r cynnig bysus am ddim hefyd yn ôl.
"Rydym hefyd yn cefnogi rhaglenni bwyd fel bod teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn gwybod y gallant gael gafael ar brydau bwyd i'w plant."
Gellir gweld yr ystod o weithgareddau sydd ar gael yma: https://www.abertawe.gov.uk/gweithgareddaugwyliau
Mae llawer o wybodaeth ar gael am gymorth pellach yn: https://www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw