Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad: Swan Lake/Sleeping Beauty, Theatr y Grand

Datganiad: Swan Lake/Sleeping Beauty, Theatr y Grand, 17/18 Tachwedd - wedi'i frandio'n wreiddiol fel 'Cyflwynwyd gan Fale a Thŷ Opera Gwladol Rwsia'

Grand Theatre

Grand Theatre

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Abertawe,

"Er bod yr hyrwyddwyr wedi dweud nad oes ganddynt gysylltiad â gwladwriaeth wleidyddol Rwsia, rydym yn ei ystyried yn amhriodol llwyfannu'r sioe ar yr adeg hon.

"Rydym wedi hysbysu'r hyrwyddwyr fod y sioe wedi'i chanslo. Bydd y rheini sydd wedi prynu tocynnau yn cael eu had-dalu.

"Mae Theatr y Grand yn cynnig rhaglen eang, ddiddorol a chynyddol amrywiol wrth iddi barhau i chwarae rôl allweddol ym mywyd diwylliannol Abertawe.

"Bydd lansiad diweddar ein menter 'Uchelgais Grand' yn helpu'r theatr i ddenu cynulleidfaoedd newydd a datblygu doniau lleol.

"Mae'r cyngor yn cefnogi'r lleoliad ac wedi cynnal ei gyflwr rhagorol drwy gydol y pandemig, ac edrychwn ymlaen at gynulleidfaoedd yn mwynhau ei raglen gyfoethog ac amrywiol sydd ar ddod."

"Rydym yn gresynu wrth ryfelgarwch annerbyniol yr Arlywydd Putin yn erbyn pobl Wcráin, sydd wedi dod â rhyfel unwaith eto i gyfandir Ewrop.

"Safwn mewn undod â phobl Wcráin.

"Mae Abertawe'n adnabyddus fel dinas noddfa ac felly, safwn yn barod i gefnogi unrhyw bobl sy'n cael eu dadleoli yn dilyn y gweithredoedd ofnadwy a gymerwyd gan Arlywydd Rwsia drwy oresgyn gwladwriaeth sofran."

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mawrth 2022