Toglo gwelededd dewislen symudol

Croeso cynnes a llawer yn digwydd yn ystod ymweliad ag un o Leoedd Llesol Abertawe

Roedd croeso cynnes a digon yn digwydd wrth i Ganolfan y Bont groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ac aelodau Cabinet Cyngor Abertawe Hayley Gwilliam ac Alyson Anthony heddiw.

Swansea Space Canolfan Y Bont Jane Hutt visit

Swansea Space Canolfan Y Bont Jane Hutt visit

Mae'r ganolfan yn un o 80 o Leoedd Llesol Abertawe i dderbyn cyllid y gaeaf hwn i'w helpu i barhau â'u darpariaeth a'i hehangu fel y gall pobl gymdeithasu, mwynhau bwyd a lluniaeth yn ogystal â gweithgareddau.

Heddiw, roedd Canolfan y Bont a gynhelir gan Bartneriaeth Pontarddulais, yn gweini diodydd poeth a rholiau brecwast wrth i gynrychiolwyr o Hwb Dementia Abertawe ac isadran budd-daliadau lles Gofal a Thrwsio Abertawe fod wrth law i gynnig cyngor i'r rheini yr oedd ei angen arnynt.

Roedd dosbarth Cymraeg yn cael ei gynnal ac roedd y caffi ar agor yn ogystal â'r banc bwyd ar gyfer parseli brys.

Dywedodd Cath Evans o'r bartneriaeth mai'r syniad y tu ôl i Le Llesol Abertawe oedd cynnig croeso cynnes a chyfeillgarwch i unrhyw un sydd eisiau galw heibio.

Fel arfer mae'r Lle Llesol yn cael ei gynnal dros bedair sesiwn ar ddyddi Llun a dydd Gwener.

Ar ddydd Llun maen nhw'n gweini cawl poeth gyda bara menyn, ynghyd â the, coffi neu ddiod ffrwythau ac yn dangos ffilm os dyna ddymuniad y rhai sy'n bresennol.

Mae grwpiau dydd Gwener yn tueddu i ganolbwyntio ar sgwrs â phaned ac weithiau crefftau gan gynnwys gwau, gwnïo, crosio, paentio yn ôl rhifau, jig-sos a chelf diemwntau.

Mae Canolfan y Bont yn brysur ar ddiwrnodau eraill yr wythnos gan gynnwys y banc bwyd sydd ar agor ar ddydd Mercher.

Meddai Cath, "Cynhelir ein Lle Llesol Abertawe drwy gydol y flwyddyn ac mae'r cyllid rydyn ni wedi'i dderbyn gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diweddar yn ein helpu i ehangu'r hyn rydym yn ei wneud yn y gaeaf.

"Yn ogystal ag arian ar gyfer y lle, rydym hefyd wedi derbyn arian o'r Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol sy'n helpu i gyflenwi'r banc bwyd ac sy'n caniatáu i ni ddarparu talebau archfarchnadoedd ar gyfer hanfodion i'r rheini y mae angen y rhain arnynt."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Ionawr 2025