Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn llwyddiant mawr
Gwnaeth miloedd o redwyr fwynhau ras 10k Bae Abertawe Admiral heddiw (dydd Sul 15 Medi) .
Dechreuodd y dorf ymgasglu am oddeutu 8.30am wrth i'r rhedwyr baratoi ar gyfer y brif ras. Aeth hon i'r gorllewin o'r Rec i'r Mwmbwls cyn dychwelyd ar hyd y promenâd i'r llinell derfyn ar Mumbles Road ger y Rec.
Cynhaliwyd nifer o rasys eraill, gan gynnwys rasys iau 1k a 3k a Ras y Masgotiaid, lle sicrhaodd enillydd y ras £100 ar gyfer elusen. Cymerodd mwy na 5,000 o bobl ran yn y rasys.
Mwynhaodd y cyfranogwyr a'r gwylwyr y pentref digwyddiadau gyda bwyd, diod ac adloniant.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn diolch i bawb a ddaeth i redeg ac i wylio'r digwyddiad gwych hwn wrth iddo gael ei gynnal am y 43ain tro."
Ceir rhagor o wybodaeth am Ras 10k Bae Abertawe Admiral a'r canlyniadau heddiw drwy fynd i www.swanseabay10k.com