Toglo gwelededd dewislen symudol

Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn llwyddiant mawr

Gwnaeth miloedd o redwyr fwynhau ras 10k Bae Abertawe Admiral heddiw (dydd Sul 15 Medi) .

Swansea Bay 10k 2024

Swansea Bay 10k 2024

Dechreuodd y dorf ymgasglu am oddeutu 8.30am wrth i'r rhedwyr baratoi ar gyfer y brif ras. Aeth hon i'r gorllewin o'r Rec i'r Mwmbwls cyn dychwelyd ar hyd y promenâd i'r llinell derfyn ar Mumbles Road ger y Rec.

Cynhaliwyd nifer o rasys eraill, gan gynnwys rasys iau 1k a 3k a Ras y Masgotiaid, lle sicrhaodd enillydd y ras £100 ar gyfer elusen. Cymerodd mwy na 5,000 o bobl ran yn y rasys.

Mwynhaodd y cyfranogwyr a'r gwylwyr y pentref digwyddiadau gyda bwyd, diod ac adloniant.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn diolch i bawb a ddaeth i redeg ac i wylio'r digwyddiad gwych hwn wrth iddo gael ei gynnal am y 43ain tro."

Ceir rhagor o wybodaeth am Ras 10k Bae Abertawe Admiral a'r canlyniadau heddiw drwy fynd i www.swanseabay10k.com

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Medi 2024