Cynllun swyddfeydd newydd yn Abertawe'n cymryd cam ymlaen
Mae cynlluniau mawr ar gyfer datblygiad swyddfeydd newydd a fydd yn rhoi hwb pellach i nifer yr ymwelwyr â chanol dinas Abertawe ar fin cymryd cam arall ymlaen.


Mae'r cynllun swyddfeydd, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer tir yn hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant, yn bwriadu cynnwys lle ar gyfer hyd at 800 o weithwyr.
Gofynnir yn awr i Gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo cyllid ar gyfer y prosiect pum llawr er mwyn hwyluso dyluniadau manwl a chostau cynllunio eraill.
Yna, byddai prif gontractwr i adeiladu'r datblygiad yn cael ei benodi, gyda'r gwaith adeiladu wedi'i gynllunio ar gyfer dechrau 2026.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae diffyg swyddfeydd o safon yng nghanol dinas Abertawe, felly bydd y cynllun hwn, ynghyd â datblygiadau eraill fel 71/72 Ffordd y Brenin ac Ardal y Dywysoges, yn helpu i ddiwallu'r angen hwnnw.
"Bydd hefyd yn helpu i gefnogi busnesau sydd eisoes yng nghanol y ddinas ac i ddenu busnesau newydd oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a fydd yn deillio o'r cynllun.
"Dyma un rhan yn unig o raglen adfywio gwerth dros £1bn sy'n mynd ymlaen er mwyn creu canol y ddinas fwy ffyniannus er budd preswylwyr a busnesau.
"Bydd yn dilyn popeth a gyflawnwyd hyd yma, gan gynnwys Arena Abertawe ac adeilad Theatr y Palace, sydd bellach wedi ailagor."
Byddai Cyngor Abertawe'n defnyddio un llawr yn y datblygiad swyddfeydd newydd, gyda gweddill y swyddfeydd yn cael eu rhannu rhwng cyrff sector cyhoeddus eraill a busnesau'r sector preifat.
Bydd arwynebedd llawr masnachol ar gyfer siopau a bwytai'n cael ei gynnwys ar lawr gwaelod y datblygiad.
Mae'r cyngor a'i bartneriaid adfywio, Urban Splash, yn datblygu'r adeilad newydd, a fydd dan berchnogaeth y cyngor.
Byddai'n rhan o gam cyntaf y gwaith i ailddatblygu'r safle dan arweiniad Urban Splash.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae cynlluniau ar gyfer gweddill hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn parhau i gael eu datblygu, ond gallant gynnwys defnyddiau addysgol a phreswyl ynghyd â chaffis, bwytai, a llawer o fan gwyrdd.
"Bydd y dyluniadau ar gael i'r cyhoedd gyflwyno sylwadau amdanynt cyn gynted ag y byddant wedi'u cwblhau."
Disgwylir i'r cynllun swyddfeydd newydd gael ei gwblhau yn 2027, gan helpu i ryddhau lle ar gyfer ailddatblygu yn y Ganolfan Ddinesig yn ardal glan môr y ddinas.
Mae Urban Splash hefyd yn datblygu cynigion ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd y manylion ar gael.