Toglo gwelededd dewislen symudol

Arbenigwyr yn cydweithio i drawsnewid safle allweddol yn Abertawe

Bydd dau gwmni adfywio arbenigol yn cydweithio i ailddatblygu safle allweddol yng nghanol dinas Abertawe.

Tom Bloxham & John Milligan

Tom Bloxham & John Milligan

Mae Urban Splash wedi cyhoeddi menter ar y cyd â'r datblygwyr eiddo tiriog Milligan Ltd i drawsnewid safle yng Ngogledd Abertawe Ganolog yn ardal Eglwys y Santes Fair.

Daw'r newyddion o fewn wythnosau i Gyngor Abertawe'n penodi Urban Splash fel ei bartner tymor hir ar gyfer gwaith trawsnewid ehangach gwerth £750m a ariennir gan y sector preifat ar gyfer safleoedd sy'n cynnwys y Ganolfan Ddinesig a'r tir ar hyd glan yr afon yn St Thomas.

Bydd digonedd o gyfleoedd ar gael i bobl roi adborth ar gynlluniau ar gyfer pob safle unwaith y caiff cynigion eu datblygu'n fanylach.

Mae cynigion cynnar ar gyfer safle 5.5 erw Gogledd Abertawe Ganolog yn hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn cynnwys swyddfeydd, gweithleoedd a rennir, fflatiau ac ardal newydd lle gall busnesau bach creadigol wneud a gwerthu eu cynnyrch.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae cael cwmnïau o'r safon hon yn rhan o'r prosiect yn newyddion gwych ar gyfer safle Gogledd Abertawe Ganolog sy'n cysylltu Stryd Rhydychen ag ardal gwerth £135m Bae Copr y mae'r cyngor eisoes wedi'i gyflawni.

"Yn y DU a thramor, mae Urban Splash a Milligan wedi cyflawni rhai o'r cynlluniau defnydd cymysg mwyaf llwyddiannus, gan gyflwyno atebion cyffrous sy'n ateb heriau'r cyfnod modern wrth adfywio canol dinasoedd a chymunedau.

"Bydd ailddatblygu Gogledd Abertawe Ganolog a'r safleoedd eraill sy'n rhan o'r cynlluniau cyffredinol gwerth £750m yn darparu'r math o brofiadau ymweld, byw a gweithio gorau y mae pobl Abertawe a'n busnesau'n eu haeddu, gan roi hwb hefyd i'n heconomi, creu swyddi a helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiadau i'r ddinas."

Meddai Tom Bloxham MBE, Cadeirydd a sefydlydd Urban Splash, "Rydym yn gyffrous iawn ynghylch cydweithio gyda Milligan i gyflawni'n syniadau ar gyfer Abertawe. Mae eu harbenigedd ym meysydd hamdden, masnach a churadu'r farchnad yn darparu'r math o feddwl arloesol y bydd ei angen ar awdurdodau lleol wrth iddynt ddechrau ar drawsnewid canolau trefi.

"Bydd hyn yn adeiladu ar yr holl waith gwych y mae Cyngor Abertawe eisoes wedi'i wneud i adfywio Abertawe wrth i'r ddinas ddechrau ar ddyfodol cyffrous."

Mae Milligan Ltd wedi helpu i gyflawni rhai o'r cynlluniau defnydd cymysg mwyaf adnabyddadwy ar draws y DU a thu hwnt neu ddod â bywyd newydd iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys Marchnad Camden Lock yn Llundain, MetQuarter yn Lerpwl a'r Mailbox yn Birmingham. Mae'r cwmni hefyd wedi addo  arwain y ffordd ar y llwybr i allyriadau sero net gyda chynlluniau cynaliadwy, addas ar gyfer y dyfodol, ynni isel sydd o fudd i'r amgylchedd, cymdeithasau a chymunedau.

Meddai John Milligan, Prif Swyddog Gweithredol Milligan, "Rydym wedi edmygu ymagwedd greadigol a thymor hir Urban Splash ers tro. Siaradom am wneud rhywbeth gyda'n gilydd am y tro cyntaf 15 o flynyddoedd yn ôl, felly mae wedi cymryd sbel i ni roi ein menter ar y cyd gyntaf at ei gilydd. Ond mae'r amseru'n berffaith. Nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen wrth i ni ailddiffinio'n lleoedd ffisegol a chreu cyrchfannau newydd yng nghanol y dref, bydd ystwythder a meddwl amrywiol yn ein helpu ni i greu lleoedd sy'n parhau.

"Mae Abertawe'n ddinas lle mae rhaglen adfywio fawr eisoes ar waith, felly rydym wrth ein boddau ein bod yn gweithio gydag Urban Splash a Chyngor Abertawe ar safle mor allweddol yng nghanol y ddinas. Fel dinas, mae gan Abertawe gymaint o botensial."

Ymysg y cynlluniau eraill y mae Milligan wedi'u cyflawni y mae ailwampio canolfan siopa Zubiarte yn Bilbao yn ogystal â thrawsnewid canolfan Maremagnum yn Barcelona yn gyrchfan manwerthu ffordd o fyw cyffrous sy'n cael ei barchu.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Mehefin 2022