Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangos gwneuthurwyr bwyd a diod lleol yn nigwyddiadau busnes Abertawe

Bydd gwneuthurwyr bwyd a diod lleol yn cael eu hyrwyddo yn ystod cyfres o ddigwyddiadau am ddim y bydd busnesau ym mhob rhan o Abertawe'n cael eu gwahodd i fynd iddynt.

Tir a Mor bakes

Tir a Mor bakes

Nod y digwyddiadau, sef Made in SwanseaaMade in Rural Swansea, yw dod â busnesau Abertawe fel bwytai, caffis, tafarndai a siopau at ei gilydd, yn ogystal â chynhyrchwyr lleol gan gynnwys ffermwyr, tyfwyr, pobwyr a bragwyr.

Cynhelir Made in Swansea yn Neuadd Brangwyn rhwng 10am a 3pm ddydd Mawrth 15 Tachwedd, a chynhelir Made in Rural Swansea yn Rasoi Indian Kitchen ym Mhontlliw rhwng 10am a 3pm ddydd Mawrth 22 Tachwedd.

Mae'r ddau ddigwyddiad yn rhan o fenter Cyngor Abertawe i hybu'r economi leol a lleihau ôl troed carbon y ddinas trwy annog busnesau i ddod o hyd i gymaint o'u bwyd a diod â phosib o gyflenwyr lleol.

Bydd stondinau ar gael yn y digwyddiadau, yn ogystal â thrafodaethau am fwyd lleol, arddangosiadau coginio a samplau o fwyd a diod sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol.

Bydd hefyd gyflwyniad ar ganfyddiadau astudiaeth mapio cynnyrch lleol ddiweddar.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gennym gynifer o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol gwych yn Abertawe nad yw nifer o bobl yn ymwybodol ohonynt, felly bydd y digwyddiadau hyn yn helpu i godi eu proffil wrth hefyd eu cyflwyno i ddarpar brynwyr newydd yn yr ardal leol.

"Mae cefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn y ffordd hon yn bwysig. Yn ogystal â rhoi hwb i'r economi leol a helpu i greu rhagor o swyddi trwy gadw gwariant yn lleol, mae hefyd yn lleihau ein hôl troed carbon trwy leihau'r pellter rhwng busnesau bwyd a diod a'u cyflenwyr.

"Mae nifer o fusnesau lleol eisoes yn gwneud gwaith gwych i ddod o hyd i gymaint o'u cynnyrch â phosib o'r ardal leol, ond rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel hyn yn arwain at fwy o wariant gyda chynhyrchwyr bwyd a diod lleol nag erioed o'r blaen."

Mae'r digwyddiad Made in Swansea yn Neuadd Brangwyn yn addas ar gyfer darpar brynwyr yng nghanol y ddinas neu yn yr ardal gyfagos, a bydd y digwyddiad Made in Rural Swansea yn Rasoi Indian Kitchen yn targedu darpar brynwyr y tu allan i ganol y ddinas ac mewn ardaloedd mwy gwledig y ddinas. Anogir cynhyrchwyr bwyd a diod lleol i fod yn bresennol yn y ddau ddigwyddiad.

Mae'r digwyddiadau am ddim ond mae angen tocynnau i fynd iddynt.

Ewch yma ar gyfer tocynnau Made in Swansea neu yma ar gyfer tocynnau Made in Rural Swansea.

Mae'r astudiaeth bwyd lleol hon yn Abertawe yn rhan o brosiect a gynhelir gan Afallen ar gyfer Partneriaeth Bwyd Abertawe gydag Open Food Network ac Urban Foundry.

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru ac a gefnogir gan Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yng Nghyngor Abertawe.

Dyfarnwyd cyllid o gronfa adferiad economaidd Cyngor Abertawe i ddal y wardiau gwledig.

Close Dewis iaith