Toglo gwelededd dewislen symudol

70 prosiect yn cael cynnig cyllid i hybu Lleoedd Llesol Abertawe

Mae prosiect cymunedol yn West Cross sy'n cynnig brecinio a chyfle i gymdeithasu bob dydd Mercher yn ehangu ei oriau agor diolch i gyllid gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Swansea Space at Linden Centre

Mae Prosiect Cymunedol 'Red', yng Nghanolfan Linden, bellach ar agor i gynnig lle diogel, cynnes a chroesawgar rhwng 9.30am a chanol dydd ar gyfer ei Ddydd Mercher Cynnes a hefyd rhwng ganol dydd a 3pm bob dydd Llun pan weithredir banc bwyd yno.

Mae'n un o fwy na 70 o brosiectau ym mhob rhan o Abertawe sydd wedi cael cynnig cyllid dan fenter Lleoedd Llesol Abertawe y cyngor mewn ymateb i'r argyfwng costau byw.

Maent i gyd yn ymrwymedig i ddarparu lleoedd cynnes y gall pobl fynd iddynt am ddim ac mae cyfeiriadur i'w gael ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe 

Dywedodd Rachel Matthews o Brosiect Cymunedol 'Red' fod gwahoddiad agored i bobl yn West Cross a'r ardaloedd cyfagos ymuno â nhw unrhyw ddydd Mercher neu ddydd Llun os dymunant.

"Rydym yn ceisio'i wneud mor gynnes a chroesawgar â phosib a chyda'r oriau ychwanegol, rydym yn cynnwys rhai gweithgareddau - fe gawson ni gwis y bore 'ma." meddai.

Ymwelodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam â'r ganolfan y mis hwn.

Meddai, "Rwy'n ddiolchgar iawn i Brosiect Cymunedol 'Red' am y gwahoddiad i ddod a'r cyfle i drafod y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu a dysgu sut maen nhw'n cefnogi pobl yn y gymuned.

"Mae mwy na 70 o leoedd wedi'u rhestru ar ein cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe y gall pobl fynd iddynt a chael croeso cynnes yno."

Close Dewis iaith