Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Lleoedd Llesol Abertawe'n darparu lleoedd diogel, cynnes a chroesawgar

Trefnir bod grantiau ar gael i elusennau, sefydliadau gwirfoddol ac nid er elw i'w helpu i ddarparu lleoedd diogel, cynnes a chroesawgar o fewn cymunedau ar draws Abertawe y gall pobl fynd iddynt yn ystod y gaeaf.

Swansea Space Generic

Swansea Space Generic

Mae Cyngor Abertawe'n creu cyfeiriadur o Leoedd Llesol Abertawe lle mae pobl yn gwybod y byddant yn cael croesawu a'u trin ag urddas a pharch.

Mae'r cyngor eisoes wedi ychwanegu rhai o'i wasanaethau gan gynnwys llyfrgelloedd a hybiau cymunedol a nawr anogir sefydliadau eraill, grwpiau cymunedol neu hyd yn oed busnesau i gyflwyno'u lleoedd i'w cynnwys yng nghyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe.

Gallai hyn gynnwys pob math o gyfarfodydd cymunedol fel boreau coffi neu glybiau llyfrau, gweithgareddau fel bingo neu gardiau neu leoedd y gall pobl fynd iddynt i ddarllen neu sgwrsio ac aros yn dwym.

Bydd y cyngor yn sicrhau bod dros £80,000 o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i ddarparu grantiau i sefydliadau i'w helpu gyda chostau ychwanegol eu lle llesol.

Gallai'r cyllid gael ei ddefnyddio o bosib i ddarparu lluniaeth a byrbrydau, ac os yw'n berthnasol i'r lleoliad, brydau mwy sylweddol, costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag ymestyn oriau agor cyfleusterau presennol neu gyfraniadau at wres a golau os yw cyfleusterau'n cael eu hagor yn benodol.

Gallai'r grantiau gael eu defnyddio o bosib i ariannu costau glanhau ychwanegol, talu am gyfarpar i gefnogi addasu lleoedd, cadeiriau, byrddau, cyfraniadau at gostau'r rhyngrwyd neu fannau gwefru ar gyfer ffonau symudol neu gyfarpar TG, eitemau bach fel tegellau, cwpanau neu blatiau, costau cludiant, costau gwirfoddolwyr neu hyrwyddo Lleoedd Llesol Abertawe.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, "Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb ac mae'r cyngor yn gwneud popeth y gall i gefnogi preswylwyr.

"Mae cyfeiriadur ar-lein o Leoedd Llesol Abertawe lle mae pobl yn gwybod y byddant yn cael croeso cynnes yn rhan o'n hymateb i'r argyfwng costau byw presennol.

"Rydym bellach mewn sefyllfa i agor cynllun grantiau i grwpiau sy'n gallu helpu ac rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth hon.

"Nid cyllid yw hwn i gymryd lle neu ddyblygu ymdrechion presennol ond bwriedir iddo gael ei ddefnyddio i estyn neu ehangu cynigion presennol fel y gellir datblygu rhagor o leoedd."

Oherwydd y galw disgwyliedig, awgrymir nad yw pobl yn gwneud cais am fwy na £2,200.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 28 Tachwedd a chaiff pob cais ei asesu yn ôl ei rinwedd.

I weld cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe ac i ychwanegu lle, ewch i: www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe

I wneud cais am grant i gefnogi Lle Llesol yn Abertawe, ewch i: www.abertawe.gov.uk/cronfaLleoeddLlesolAbertawe

Close Dewis iaith