Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith ailwampio'n helpu i roi bywyd newydd i'r Bwthyn Swistirol

Mae Bwthyn Swistirol eiconig Abertawe ym Mharc Singleton yn cael ei ailwampio.

Swiss Cottage August 2024

Swiss Cottage August 2024

Mae rhai darnau pren newydd wedi'u gosod yn lle'r hen rai, mae gwaith sandio wedi'i wneud ac mae'r adeilad wedi cael ei ailbaentio i helpu i'w adfer i fel yr oedd yn ei ddyddiau gorau.

Lesddeiliad y Bwthyn Swistirol, Michael Border, drefnodd i'r gwaith gael ei wneud, diolch i gyllid gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r cyllid hwn hefyd yn galluogi astudiaeth ddichonoldeb sydd, gyda chymorth pensaer a thîm ymgynghoriaeth, yn archwilio sut y bydd modd defnyddio'r adeilad eto yn y dyfodol wrth gynnal ei dreftadaeth.

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd syniadau ar gyfer y Bwthyn Swistirol y cynnwys creu lle am gaffi a fydd yn gwerthu diodydd a bwyd yn ogystal ag ardal i fyny'r grisiau ar gyfer gweithdai gwell iechyd.

Os bydd y cynlluniau'n mynd yn eu blaenau, byddai pobl ifanc nad ydynt mewn addysg neu gyflogaeth yn cael y cyfle i weithio yn y Bwthyn Swistirol fel rhan o gynllun i roi hwb i'w hyder a'u sgiliau.

Mae Mr Border hefyd yn archwilio ffynonellau ariannu eraill i helpu i dalu am gostau adnewyddu'r tu mewn i'r adeilad, gan greu man eistedd awyr agored ac ailsefydlu estyniad cefn yr adeilad.

Meddai Mr Border, "Mae gen i deulu yn Abertawe, felly rwyf wedi bod yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r ddinas ers blynyddoedd.

"Mae gen i atgofion melys o'r Bwthyn Swistirol o'm hymweliadau a Pharc Singleton fel plentyn, felly mae'r cyfle i helpu i'w adfer er mwyn ei ailddefnyddio eto yn un rhy dda i'w golli. 

"Ar ôl siarad â llawer o ymwelwyr â'r parc am ein syniadau, gwyddwn fod llawer o gefnogaeth gan fod pobl eisiau rhywle lle gallant eistedd i lawr yn gyfforddus a chael coffi a thafell o deisen.

"Does dim byd yn gydnaws ag ef ym Mharc Singleton, a bydd yr holl waith rydym yn ei wneud yn cyd-fynd â hanes a threftadaeth yr adeilad."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r Bwthyn Swistirol yn dirnod ac yn fan cyfarfod i bobl sy'n ymweld â Pharc Singleton, ond roedd angen ei dacluso yn y blynyddoedd diweddar i wella'i olwg.

"Diolch i'n grant drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym wrth ein bodd bod y gwaith hwn bellach wedi digwydd wrth i astudiaeth ddichonoldeb sy'n edrych ar syniadau i ddefnyddio'r Bwthyn Swistirol eto barhau.

"Mae'r Bwthyn Swistirol a adeiladwyd yn y 19eg ganrif yn un o nifer o adeiladau hanesyddol ar draws Abertawe sy'n elwa o fuddsoddiad tebyg.

"Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i ddathlu a chadw treftadaeth Abertawe wrth roi hwb i gymunedau ledled y ddinas."

Mae adeiladau hanesyddol eraill a fydd yn elwa'n cynnwys Castell Ystumllwynarth, yr Eglwys Undodaidd ar y Stryd Fawr yng nghanol y ddinas ac Eglwys y Bedyddwyr York Place. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Awst 2024