Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd gwasanaeth newydd yng nghanol y ddinas yn helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw

Mae gwasanaeth poblogaidd wedi dychwelyd i ganol dinas Abertawe i helpu aelwydydd lleol drwy'r argyfwng costau byw.

Switched On High Street

Switched On High Street

Mae'r hwb ymwybyddiaeth ynni 'Switched On' wedi agor ar y Stryd Fawr i gynnig cyngor ac arweiniad am ddim ar gadw biliau tanwydd mor isel â phosib.

Agorodd y gwasanaeth, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Abertawe a'i weithredu gan Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe, am y tro cyntaf yn Nelson Street yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.

Mae ganddo raglen barhaus o ymweliadau cymunedol sy'n mynd yn rheolaidd gyda'u hawgrymiadau ymarferol i leoliadau hygyrch yng nghymdogaethau Abertawe.

Meddai cyd-ddirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis: "Mae ein cefnogaeth i bobl leol yn arbennig o bwysig yn ystod yr amserau anodd hyn. Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid sy'n parhau i helpu i ddarparu'r gwasanaeth hwn."

Mae 'Switched On' ar agor yn y mannau canlynol: Gweithdai Cymunedol Abertawe, 208 y Stryd Fawr, bob dydd Iau a dydd Gwener rhwng 10am a 4pm.

Cynhelir sesiynau allgymorth cymunedol mewn lleoliadau fel Gorseinon, Townhill, Treforys, Clydach a Phen-lan.

Meddai Rhian Corcoran, rheolwr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, "Bydd llawer o bobl yn falch fod y gwasanaeth hwn yn parhau a bod ganddo bresenoldeb amlwg newydd yng nghanol y ddinas."

Mae partneriaid a chefnogwyr wedi cynnwys Western Power Distribution, yr Asiantaeth Ynni Genedlaethol, Cymru Gynnes, adrannau'r cyngor, Swansea MAD, EON Energy, City Energy ac Yes Energy Solutions.

Rhagor: www.environmentcentre.org.uk/switched-on

Llun: 'Switched On' - yr hwb ymwybyddiaeth ynni newydd. -.

 

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith