Toglo gwelededd dewislen symudol

Ar gael nawr! Cyngor am ddim i'ch helpu i ymdopi â chostau ynni

​​​​​​​Disgwylir i Hwb Ymwybyddiaeth Ynni Abertawe fod ar agor dros y misoedd oerach.

Switched On

Switched On

Bydd aelodau staff yno'n cynnig cyngor annibynnol am ddim i chi ar ymdopi â chostau ynni aelwydydd a mwy.

Mae'r hwb - y'i gelwir yn 'Switched On' - bellach ar agor rhwng 10am a 4pm bron bob dydd Iau a dydd Gwener yng Ngweithdai Cymunedol Abertawe, 208 High Street, yng nghanol y ddinas.

Mae'n cynnig awgrymiadau ymarferol trwy sgyrsiau wyneb yn wyneb cyfeillgar, sesiynau galw heibio, sgyrsiau am effeithlonrwydd ynni a chyngor ar ddyled tanwydd.

Mae ein cyngor yn cynnwys gwybodaeth i bawb ar sut i insiwleiddio cartrefi'n well, newid darparwyr ynni a chael mynediad at gymorth ar hawliau lles.

Mae'r tîm yno'n helpu deiliaid tai i arbed arian ac yn helpu'r ddinas i fod yn garbon sero net erbyn 2050, sef targed y mae'r cyngor eisoes yn gweithio tuag ato.

Mae tîm Switched On yn cynllunio nifer o sesiynau allgymorth yn y gymuned.

Maent yn awyddus i'ch helpu i weithio tuag at gadw biliau tanwydd mor isel â phosib a thalu costau byw.

Mae'r gwasanaeth, a ariennir gan Gyngor Abertawe ac a weithredir gan Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe, wedi cael ei weithredu ers dwy flynedd. Mae cannoedd o bobl wedi derbyn cymorth ac arbedwyd miloedd o bunnoedd o ganlyniad i'r cyngor a gynigiwyd.

Rhagor o wybodaeth am Switched On, eich Hwb Ymwybyddiaeth Ynni - www.bit.ly/SOeah

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Hydref 2024