Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Aelwydydd yn arbed miloedd diolch i'r hwb ymwybyddiaeth ynni

Mae cannoedd o bobl gyda'i gilydd wedi arbed miloedd o bunnoedd diolch i gynllun a ariennir gan Gyngor Abertawe i helpu i dorri biliau ynni cartref.

Light Switch

Light Switch

Mae Canolfan yr Amgylchedd Abertawe - sy'n darparu'r gwasanaeth - yn amcangyfrif y gallai'r cymorth fod wedi helpu preswylwyr lleol gyda'i gilydd i arbed mwy na £36,000 y flwyddyn mewn biliau tanwydd drwy welliannau effeithlonrwydd ynni.

Mae'n bosib ei fod wedi caniatáu i ddeiliaid tai gael gafael ar fwy na £12,000 mewn cymorth ariannol ar gyfer taliadau tanwydd.

Mae cyngor wedi amrywio o awgrymiadau atal drafftiau ac ymddygiadau effeithlonrwydd ynni i arweiniad ar gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru.

Lansiwyd y gwasanaeth ym mis Ionawr gyda'r hwb Switched On yn cynnig cefnogaeth o hen adeilad siop yng nghanol y ddinas am 15 wythnos.

Ers hynny, cafwyd digwyddiadau galw heibio ar gyfer y cyhoedd mewn cymunedau ar draws Abertawe drwy gydol yr haf ac i mewn i fis Medi.

Mae'r pwyntiau trafod allweddol wedi cynnwys helpu preswylwyr i gael mynediad at y cynlluniau cymorth taliad tanwydd a hyrwyddo gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

Mae tua 1,300 o bobl wedi ceisio arweiniad hyd yn hyn.

Bydd y cyngor a Chanolfan yr Amgylchedd nawr yn archwilio sut y gellid ehangu'r prosiect drwy'r gaeaf sydd i ddod hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf, gan barhau i gynnig darpariaeth yng nghanol y ddinas ac mewn cymunedau.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor, "Byddwn yn parhau i ystyried sut orau i helpu pobl yn y ffordd hon. Yn ogystal â helpu i dorri biliau pobl, bydd y gwasanaeth hwn yn helpu'r cyngor a'r ddinas i ddod yn garbon sero net."

Meddai Rhian Corcoran, rheolwr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, "Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni; mae cymorth yn allweddol i alluogi pobl i gymryd camau i helpu eu hunain."

Mae partneriaid a chefnogwyr Hwb Ymwybyddiaeth Ynni Abertawe'n cynnwys y gweithredwr rhwydwaith ynni Western Power Distribution, yr Asiantaeth Ynni Genedlaethol, yr arbenigwyr tlodi tanwydd Cymru Gynnes, adrannau'r cyngor, elusen ieuenctid MAD Abertawe, EON Energy, City Energy ac Yes Energy Solutions.

Mae ymweliadau cymunedol Switched On sydd i ddod yn cynnwys: Llyfrgell Clydach, 10am-2pm, 28 Medi; Llyfrgell Gorseinon, 10am-4pm, 29 Medi;

Rhagor: www.environmentcentre.org.uk/switched-on  

Close Dewis iaith