Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth gan y cyngor yn parhau ar gyfer y sector twristiaeth

​​​​​​​Mae mwy o fusnesau llety i ymwelwyr yn Abertawe yn elwa o gyllid i wella'u cyfleusterau.

Parkmill Cottages, Gower

Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi'r busnesau a elwodd o gam dau ei Gronfa Cymorth i Dwristiaeth.

Roedd y cyllid - a oedd yn rhan o gronfa adferiad economaidd y cyngor gwerth £25 miliwn yn dilyn y pandemig - ymysg pecyn o fesurau a anelwyd at gefnogi'r sector twristiaeth.

Dan y pecyn cymorth hwn, roedd gweithredwyr llety bach mewn ardaloedd gwledig yn gallu gwneud cais am gyllid grant gwerth hyd at £8,000 gan y Gronfa Cymorth i Dwristiaeth i wella'u cynnig. Yn ystod rownd derfynol y rhaglen ddiwethaf, cefnogwyd 15 o fusnesau.

Bydd rownd ariannu arall yn agor cyn bo hir. Caiff hyn ei chynnal gan Gyngor Abertawe a'i hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rydym yn helpu nifer o fusnesau twristiaeth i dalu costau cyfleusterau a fydd yn gwella'u gwasanaeth. Ar yr un pryd, rydym yn gwella safon a phroffil Bae Abertawe fel cyrchfan i ymwelwyr."

Ymysg y rheini sydd wedi elwa o'r rownd ariannu flaenorol mae Panoramic Camping & Glamping Felindre, a ddefnyddiodd yr arian grant i gaffael pabell saffari hygyrch, sy'n cynnwys ystafell ymolchi â mynediad i'r anabl.

Defnyddiodd Newpark Holiday Park ym Mhorth Einon yr arian i osod ystafelloedd gwlyb newydd a hygyrch mewn tri chalet.

Yn Llandeilo Ferwallt, buddsoddodd New Gower Hotel mewn siediau beiciau newydd a chyfleusterau ymolchi ar gyfer y farchnad feicio.

Defnyddiodd Parkmill Cottages yr arian i helpu i brynu a gosod dau bwynt gwefru CT ar gyfer eu gwesteion.

Mae cefnogaeth bellach gan y cyngor ar gyfer twristiaeth yn cynnwys pecynnau lefel mynediad am ddim ar www.croesobaeabertawe.com

Llun: Robert Francis-Davies o Gyngor Abertawe gyda Kerry Maisey o Parkmill Cottages.

 

 

 

 

Close Dewis iaith