Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth grant o £740 mil yn helpu i drawsnewid Abertawe

Mae adfywiad Abertawe yn elwa o £740,000 o gyllid eleni gan gynllun grant a reolir gan Gyngor Abertawe.

Market Garden

Market Garden

Mae'n helpu busnesau a sefydliadau eraill i fuddsoddi mewn ardaloedd lleol diolch i arian o raglen "creu lleoedd" Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyllid yn helpu i adfywio canolau trefi ledled Cymru, gyda chynlluniau fel creu cartrefi newydd uwchben eiddo masnachol, uwchraddio unedau masnachol gwag fel y gellir eu defnyddio eto a chreu prosiectau bioamrywiaeth megis waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd.

Mae prosiectau Cyngor Abertawe, gyda chymorth Trawsnewid Trefi eleni yn cynnwys creu Gardd y Farchnad boblogaidd yng nghanol Marchnad Abertawe a gwella rhai unedau masnachol ger HSBC a Barclays.

Bydd diweddariad ar y cynllun Trawsnewid Trefi - a sut mae'r cyngor yn ei reoli ar draws De-orllewin Cymru i gyd - yn cael ei roi i Gabinet y cyngor yr wythnos nesaf (sylwer: 17 Chwefror).

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae'r rhaglen grant hon yn rhoi'r pecyn cymorth ehangaf a mwyaf hyblyg i awdurdodau lleol gyda'r nod o adfywio canolau trefi."

Roedd £6.5m o gyllid ar gael ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £1 filiwn i'r rhanbarth ar gyfer 2022-23.

Llun: Ardal newydd Gardd y Farchnad Marchnad Abertawe - sydd wedi derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

 

 

Close Dewis iaith