Cyfleoedd busnes yn cael eu darparu yng nghanol y ddinas gyda chymorth cyllid allweddol
Mae cyfleoedd busnes newydd yng nghanol y ddinas yn cael eu creu gyda chymorth cyllid allweddol gan Gyngor Abertawe.


Maent yn rhan o raglen ddwy flynedd gwerth £11.4m a ddarperir gan y cyngor i roi hwb i gartrefi a mannau masnachol.
Daeth mwy na £7m o hyn o gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gyda £4.3m o fuddsoddiad preifat.
Mae'r grantiau a'r benthyciadau hefyd wedi helpu i ddod â chyfleoedd busnes newydd i leoliadau eraill yn Abertawe.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y cyngor, "Wrth i'r gwaith gwerth £1bn i adfywio Abertawe barhau, mae'n wych ein gweld ni'n helpu i ddarparu cyfleoedd busnes newydd.
"Mae hyn yn dod â mwy o fywyd i ardaloedd manwerthu allweddol, gan ddenu entrepreneuriaid a phreswylwyr newydd."
Mae rhai o'r adeiladau yng nghanol y ddinas sy'n cael bywyd newydd ar gyfer gweithgareddau masnachol, y mae rhai ohonynt hefyd yn cynnwys cartrefi newydd uwchben y llawr gwaelod, yn cynnwys y canlynol:
- Gwaith adfywio allanol i adeilad parc sglefrio Exist
- Adeilad newydd ar gyfer Cymdeithas Adeiladu Principality ac eraill yn dilyn adnewyddu 263-265 Stryd Rhydychen a 9 Portland Street
- Pedwar blaen siopau newydd yn 20-24 y Stryd Fawr, gan gynnwys siop SA1 Grocery, Turkish Kitchen ac Imperial Desserts.
- Gwaith adnewyddu i'r uned fasnachol wag ar lawr gwaelod 22-23 y Stryd Fawr, y drws nesaf i Turkish Kitchen
- Blaen siop newydd ar gyfer Hwb Menter Gymunedol The CAE - 28 Stryd Rhydychen
- Uned fasnachol newydd drwy adnewyddu a thrawsnewid 1-3 Dillwyn Street, gan gynnwys yr hen Singleton Hotel
- Gwaith adnewyddu allanol a mewnol i roi defnydd newydd i 22 Stryd Rhydychen
- Gwaith adnewyddu allanol a mewnol yn 397 Ffordd y Brenin i ddarparu canolfan newydd ar gyfer Marie Curie
- Adnewyddu uned fasnachol wag ar y llawr gwaelod yn 6-7 Stryd Rhydychen ac 1-7 Whitewalls - hen siop Topshop
- Uned fasnachol newydd gydag addasiad hen dafarn White Swan yn 86 y Stryd Fawr
- Gwaith adnewyddu allanol a mewnol arfaethedig i ddarparu ardal fasnachol newydd yn hen dafarn The Kings Arms, 26 y Stryd Fawr
- Gwaith adnewyddu allanol a mewnol arfaethedig i roi defnydd newydd i adeilad Mond yn Union Street
- Gwaith adnewyddu allanol a mewnol i roi defnydd newydd i lawr gwaelod masnachol gwag yn 27-29 Ffordd y Brenin, hen safle Nationwide a Burgess World Travel
- Gwaith adfywio allanol a mewnol a thrawsnewid llawr gwaelod yn 61 Ffordd y Brenin a 26 Park Street, i roi defnydd newydd i adeilad masnachol gwag, gyda dwy uned fasnachol newydd
- 19 Ffordd y Brenin - gwaith adfywio allanol a mewnol a thrawsnewid i lawr gwaelod gwag i'w ddefnyddio eto at ddiben masnachol
Mae trawsnewidiadau eraill yn cynnwys: Ailadeiladu hen warws Clydach ar gyfer Canolfan Camlas Tawe; 3 blaen siop newydd yn 58-60 Woodfield Street, Treforys; llawr gwaelod newydd ym Meithrinfa Morris Mouse, Glantawe Street, Treforys; man masnachol, cymdeithasol a chymunedol newydd yng Nghapel y Tabernacl yn Nhreforys; dwy uned fasnachol newydd yn hen Eglwys Sant Ioan Treforys; a fferyllfa newydd gydag ystafelloedd triniaeth yn 82-84 Teilo Street, Pontarddulais.
Meddai Kate Leonard, o barc sglefrio Exist, "Bydd y gwaith adnewyddu allanol yn ein parc sglefrio yn hwb enfawr i'n cymuned sglefrio, yn ogystal â'n cymdogaeth a chanol y ddinas hefyd."
Llun: Kate Leonard, o barc sglefrio Exist, sydd â chynlluniau ar gyfer gwaith adnewyddu allanol.