Toglo gwelededd dewislen symudol

Cartrefi'n cael eu darparu yng nghanol y ddinas gyda chymorth cyllid allweddol

Mae dwsinau o gartrefi newydd yn cael eu creu gyda chymorth cyllid allweddol gan Gyngor Abertawe

Jordan at Jaxx

Jordan at Jaxx

Maent yn rhan o raglen ddwy flynedd gwerth £11.4m a ddarperir gan y cyngor i roi hwb i gartrefi a mannau masnachol.

Daeth mwy na £7m o hyn o gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gyda £4.3m o fuddsoddiad preifat.

Mae'r grantiau a'r benthyciadau hefyd wedi helpu i ddod â chartrefi newydd i leoliadau eraill yn Abertawe.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor, "Wrth i'r gwaith gwerth £1bn i adfywio Abertawe barhau, mae'n wych ein gweld ni'n helpu i ddarparu cartrefi newydd i unigolion preifat a theuluoedd.

"Mae hyn yn dod â mwy o fywyd i ardaloedd manwerthu allweddol, sy'n golygu cyfleoedd newydd i fusnesau."

Mae adeiladau canol y ddinas â chartrefi newydd - uwchben adeiladau masnachol presennol neu newydd - yn cynnwys:

  • 1-3 Dillwyn Street - naw fflat yn hen westy Singleton Hotel a drws nesaf iddo
  • 86 High Street - naw fflat uwchben y llawr gwaelod yn hen dafarn y White Swan
  • 19 Ffordd y Brenin - dwy fflat ar y lloriau uchaf
  • 22-23 Y Stryd Fawr - chwe fflat newydd ar y lloriau uchaf uwchben lle masnachol newydd
  • 263-265 Stryd Rhydychen a 9 Portland Street - 11 o fflatiau newydd ar y lloriau uchaf uwchben cangen newydd cymdeithas adeiladu Principality
  • 266-267 Stryd Rhydychen - 10 fflat newydd ar y lloriau uchaf uwchben Shoezone
  • 61 Ffordd y Brenin a 26 Park Street - chwe fflat ar y lloriau uchaf uwchben lefel y ddaear
  • 2 Gerddi'r Castell - naw fflat ar y llawr uchaf uwchben hen uned XP Gaming

Mae trawsnewidiad tebyg yn digwydd yn hen Eglwys Sant Ioan, Treforys, gyda phedair fflat yn cael eu creu.

Meddai'r datblygwr Jordan Evans, o Sixx Group,"Mae newid hen westy'r Singleton Hotel yn naw fflat gyfoes yn fuddsoddiad masnachol cadarn ac yn gyfraniad ystyrlon at adfywio'r ddinas."

Meddai'r datblygwr Suki Kullar, o Kullar Property, "Mae ailddatblygu hen dafarn y White Swan yn naw fflat o ansawdd uchel a thair uned fasnachol yn gam allweddol i ddod â bywyd yn ôl i'r rhan hon o'r Stryd Fawr."

Meddai'r datblygwr Nick Founds, o Trinity Landmark, "Rydyn ni'n gyffrous i ailddatblygu 19 Ffordd y Brenin. Bydd yn darparu adeilad cyfoes gydag uned fasnachol ar y llawr gwaelod a dwy fflat uwchraddol fawr ar y lloriau uchaf."

Meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, "Rwy'n falch o weld y cynllun Trawsnewid Trefi'n cael ei ddefnyddio i helpu i gyflawni'r cynlluniau tai arloesol hyn yng nghanol dinas Abertawe.

"Mae mwy na £7 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi'n cael ei ddefnyddio i ddarparu tai mawr eu hangen ledled y ddinas, ac i adfywio canol y ddinas o ganlyniad. Ers 2020, mae cyllid Trawsnewid Trefi gwerth £91m wedi'i fuddsoddi yn Abertawe."

Llun: Jordan Evans, o Sixx Group, yn 1-3 Dillwyn Street.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2025