Staff TUI yn 'falch' o fod yn gweithio yn natblygiad Ffordd y Brenin
Mae staff yng nghwmni teithio a hamdden TUI yn dweud y byddant yn falch o weithio mewn datblygiad swyddfeydd newydd yng nghanol dinas Abertawe.


Mae TUI ymysg nifer o denantiaid sydd eisoes wedi'u cadarnhau ar gyfer cynllun 71/72 Ffordd y Brenin ar hen safle clwb nos Oceana.
Bydd lle i 600 o swyddi yn yr adeilad a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Bydd staff TUI sy'n gweithio yn Alexandra House ar hyn o bryd, yn symud yno yn y misoedd sy'n dod, gan helpu i gadw swyddi yng nghanol y ddinas. Byddant yn ymuno â gweithwyr o fusnesau eraill gan gynnwys IWG a Futures First yn y cynllun newydd.
Mae 80% o'r datblygiad eisoes wedi'i osod ac mae sgyrsiau'n parhau ar gyfer yr holl leoedd eraill yn yr adeilad.
Meddai aelod o staff TUI, Danna Rigdon, "Mae'r swyddfa newydd wedi'n syfrdanu - mae ganddi awyrgylch braf.
"Mae bod yn falch o le'n bwysig, a byddaf yn falch o ddweud fy mod yn gweithio yn 71/72 Ffordd y Brenin.
"Darganfuom fusnes lleol am y tro cyntaf pan ymwelom â'r adeilad yn ddiweddar - siop frechdanau gerllaw o'r enw Grandad Needs His Medicine. Roedd y bwyd yn flasus iawn, felly byddaf yn bendant yn mynd nôl yno."
Meddai ei chydweithiwr Tracy Tamplin, "Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn amgylchedd modern ac agored.
"Yr hyn sy'n dda am y lleoliad newydd yw ei fod yn ganolog. Mae'n wych ar gyfer yr adegau pan ddaw ymwelwyr i mewn i'r swyddfa - ac i gydweithwyr, gan ei bod hi'n llawer haws i ni fynd allan yn ystod ein hegwylion cinio."

Meddai Leah Cussons, "Bydd y swyddfa newydd yn wych ar gyfer lles staff, a fydd wir yn gallu'i haddasu fel y dymunant.
"Fel cwmni, rydym am fod yn falch o'n lleoliad a bydd yr adeilad hwn yn sicrhau hynny.
"Mae llawer o ymwelwyr yn dod i'n gweld ni - hyd yn oed o dramor - felly rydym yn edrych ymlaen at ddangos ein gweithle iddynt."
Mae staff eraill TUI wedi cyfeirio at gysylltiadau cludiant cyhoeddus y datblygiad, ac mae eraill yn dweud y bydd symud yno'n fuddiol i fusnesau eraill yng nghanol y ddinas.
Meddai Lisa Morgan, "Bydd y swyddfa newydd yn fwy ffres gyda mwy o le agored a fydd yn gwneud i ni deimlo'n llawer gwell. Mae llawer o ffenestri gwydr hefyd, felly bydd golau naturiol yn dod i mewn.
"Rwy'n defnyddio cludiant cyhoeddus ac mae'n hawdd cyrraedd yma ar fws gan fod safle bws y tu allan i'r adeilad."
Meddai rheolwr y ganolfan gyswllt, Sarah Gallagher, "Mae pawb yn gyffrous iawn ynghylch symud i'r adeilad newydd gan y byddwn yn fwy canolog ac mewn swyddfa sy'n teimlo'n fwy modern."
Meddai Hannah Varney, "Bydd y swyddfa newydd yn llawer mwy addas i'r diben. Mae hi yng nghanol y ddinas, tra rydyn ni ar yr ymylon ar hyn o bryd."
Mae staff y gweithredwr adeiladu Savils eisoes wedi dechrau gweithio yn 71/72 Ffordd y Brenin.
Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys teras gwyrdd ar y to sydd â golygfeydd dros Fae Abertawe, ynghyd â phaneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.
Mae cyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen hefyd yn rhan o'r cynllun.