Toglo gwelededd dewislen symudol

Mis i fynd nes y bydd globau Abertawe'n cael eu cyflwyno

Mae pobl Abertawe ar fin mynd ar daith ddarganfod ar hyd llwybr celf gyhoeddus sy'n archwilio'u hanes cyffredin - a sut y gall pob un ohonom helpu i wneud cyfiawnder hiliol yn realiti.

A World Reimagined globe

A World Reimagined globe

Rhwng 13 Awst a 31 Hydref, bydd prosiect The World Reimagined yn trawsnewid strydoedd canol y ddinas gyda'i lwybr am ddim o gerfluniau glôb. Caiff pob un ei ddylunio gan artist unigol.

Bydd y llwybr yn cael ei gyflwyno ar yr un pryd â llwybrau mewn chwe dinas arall yn y DU, wrth i The World Reimagined wahodd pobl i gydnabod yr hanes hwn, a chefnogi gwaith gweithredwyr a sefydliadau cymunedol gwych.

Wedi'u cefnogi gan y cyngor, bydd y globau'n dod â phobl, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd i siarad am sut rydym yn deall ein hanes, sut mae ein gorffennol yn llunio ein dyfodol a sut gallwn weithredu dros newid cymdeithasol.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King , "Mae The World Reimagined yn creu cyfleoedd ar gyfer artistiaid, sefydliadau lleol, colegau, ysgolion a chymunedau ar draws y ddinas.

"Maen nhw'n cymryd rhan, a chaiff eu gwaith ei fwynhau gan filoedd o ymwelwyr â chanol y ddinas."

Mae'r llwybrau'n rhan o raglen ehangach sy'n annog ac yn cefnogi sgyrsiau ynghylch cyfiawnder hiliol sydd eisoes yn digwydd yn Abertawe.

Llun: Etifeddiaeth wedi'i dwyn, glôb Abertawe.

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Gorffenaf 2022