Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i adfywio'r Tabernacl yn cymryd cam newydd ymlaen

Disgwylir i waith i adfywio adeilad hanesyddol yn Abertawe gymryd cam arall ymlaen.

Morriston Tabernacle, Exterior

Morriston Tabernacle, Exterior

Mae cynllun yn cael ei ddatblygu i reoli cyllid prosiect newydd y Tabernacl Treforys mewn ffordd arbenigol ar ran y grŵp elusennol o blwyfolion sy'n rhedeg y tirnod 151 oed.

Gofynnir i gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo'r cynllun pan fydd yn cwrdd ar 20 Gorffennaf.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rydym yn gwneud popeth y gallwn i helpu'r plwyfolion i reoli'n gweledigaeth tymor hir a rennir i sicrhau bod gan yr adeilad rolau canolog yn y dyfodol."

Bydd y cynllun newydd yn gweld y cyngor yn cydweithio gyda'r Tabernacl i dderbyn taliadau grant ar ran y plwyfolion, goruchwylio taliadau a helpu gyda grantiau.

Mae'r prosiect cyffredinol yn ceisio ehangu'r amrywiaeth o weithgareddau yn y lleoliad a denu defnyddwyr newydd.

Bydd yn gwella hygyrchedd, yn gwella cynllun y mannau sydd ar gael i'w llogi, yn gwella gwybodaeth am dreftadaeth leol ac yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc a'r rheini sy'n teimlo'n ynysig yn gymdeithasol.

Mae partneriaid o'r gorffennol a oedd yn rhan o ddatblygu'r prosiect yn cynnwys Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Rhagnodi Cymdeithasol y GIG, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caredig ac Addoldai Cymru.

Llun: Capel y Tabernacl Treforys.

 

 

Close Dewis iaith