Toglo gwelededd dewislen symudol

Awgrymiadau da i nodi Wythnos Siarad Arian

Byddwn yn cyhoeddi awgrym y dydd yr wythnos nesaf i helpu i gefnogi preswylwyr a theuluoedd Abertawe gyda chostau'r argyfwng costau byw.

UK currency

UK currency

Bydd yr awgrymiadau, a fydd wedi'u postio ar dudalen Facebook y cyngor, yn nodi Wythnos Siarad Arian.

Mae Wythnos Siarad Arian, a gynhelir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn gyfle i bobl gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU sy'n helpu pobl i gael sgyrsiau mwy agored am eu harian.

Gan ddefnyddio'r stwnshnodau #SiaradArian a #CostauByw, bydd negeseuon y cyngor ar Facebook yn cyfeirio pobl at arian a budd-daliadau y gall fod ganddynt hawl i'w derbyn.

Bydd cyngor ar ffynonellau credyd hefyd yn cael ei gynnwys, yn ogystal ag arweiniad ar reoli dyled.

Gallwch hefyd fynd i'n gwefan dan yr unto yn www.abertawe.gov.uk/helpcostaubywi gael cyngor a chymorth ar gostau byw.

Close Dewis iaith