Disgyblion yn cael cipolwg ar waith adeiladu gwerth £9.9m ar gyfer ysgol newydd
Mae disgyblion ysgol gyfun wedi cael cipolwg ar y diwydiant adeiladu diolch i gontractwyr sy'n gweithio ar godi ysgol gyfun Gymraeg newydd gwerth £9.9m yn Abertawe.
Mae disgyblion blwyddyn 10 yn Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan wedi ymweld â'r datblygiad newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan.
Diolch i'r contractwyr Kier a Chyngor Abertawe, cawsant y cyfle i gymryd rhan mewn profiad gwaith rhithwir, sesiwn fentora gyrfaoedd ar-lein a cherflunio amgylcheddol, ac fe wnaeth bob un ohonynt gwblhau'r cwrs.
Nid oedd yn bosib iddynt ymweld â'r safle adeiladu y tymor diwethaf oherwydd y pandemig, ond gan fod y cyfyngiadau wedi'u llacio erbyn hyn, maent bellach wedi cael mynd i weld sut mae'r gwaith adeiladu'n mynd rhagddo.
Mae'r gwaith i adeiladu'r ysgol newydd yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru fel rhan o'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif lle caiff £170m ei wario ar wella isadeiledd ysgolion yn Abertawe - y buddsoddiad mwyaf mewn addysg yn hanes y ddinas.
Meddai athro o Ysgol Esgob Vaughan, Lee Murray, "Rydym yn falch iawn o'n disgyblion a gwblhaodd y prosiect galwedigaethol hwn yn y gymuned gyda chwmni adeiladu Kier.
"Roedd y disgyblion wedi gweithio'n galed iawn y tymor diwethaf wrth fagu hyder ac ennill sgiliau personol a chyflogadwyedd.
Meddai Jason Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Kier Construction Western & Wales, "Mae'n bwysig i ni ein bod yn darparu cyfleoedd fel bod y genhedlaeth nesaf yn gallu dysgu rhagor am y diwydiant adeiladu.
"Mae amrywiaeth eang o yrfaoedd ar gael a chyda sawl ffordd o fynd ati i gael swydd yn y diwydiant, mae'n darparu cyfleoedd i bawb sy'n arbennig o bwysig i Gymru yn awr ac yn y dyfodol."
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, "Hoffwn longyfarch y disgyblion a gymerodd ran yn y prosiect hwn a diolch i Kier a'n Hadran Addysg am alluogi hyn."
Adeiledir yr ysgol ar dir ger Hill View Crescent yn y Clâs a bydd ganddi fwy o leoedd a dosbarth meithrin a fydd yn helpu i ateb galw cynyddol am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.
Rhagwelir y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf, yn barod ar gyfer y disgyblion.