Cartref newydd ysgol ffyniannus gwerth £9.9m yn cael ei agor yn swyddogol
Mae cartref newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan gwerth £9.9m a fydd o fudd i filoedd o ddisgyblion dros y blynyddoedd i ddod wedi agor yn swyddogol.
Agorodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, yr ysgol o'r radd flaenaf yn Y Clâs sy'n cymryd lle'r hen adeiladau Fictoraidd yn Tan-y-lan Terrace yn Nhreforys.
Ariannwyd yr adeilad ar y cyd gan y cyngor a Llywodraeth Cymru dan y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ac mae'n addas ar gyfer y dyfodol fel y gall nifer y disgyblion gynyddu i ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg.
Mae'r prosiect gorffenedig, lle gwelwyd disgyblion yn symud iddi'r mis diwethaf, yn rhan o fuddsoddiad £170m mewn adeiladau ac isadeiledd ysgolion yn Abertawe.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r cyfleusterau yn yr ysgol newydd yn newid pethau'n sylweddol ac roedd yn braf clywed gan ddisgyblion ac athrawon am sut maent wedi ymgartrefu ac yn gwneud yn fawr o'u cartref newydd."
Ychwanegodd Aelod Cabinet y cyngor dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Robert Smith, "Mae Cyngor Abertawe a'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru'n benderfynol o roi pob cyfle i'n pobl ifanc gyrraedd eu potensial llawn ac mae amgylchedd fel hwn yn gwneud hynny.
"Gyda'n gilydd rydym yn gwneud y buddsoddiad mwyaf a welwyd erioed yn Abertawe mewn adeiladau a chyfleusterau ysgolion newydd a gwell a fydd o fudd i filoedd o blant yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod."
Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, "Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Ysgol Gynradd Gymraeg newydd Tan-y-lan trwy ein Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a fydd yn creu amgylchedd dysgu gwych ar gyfer y plant ac yn helpu i ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal."
Adeiladwyd yr ysgol gan y contractwyr Kier sydd wedi gweithio'n ddiogel trwy'r pandemig i ddarparu'r prosiect.
Yn ogystal â chyfleusterau i ganiatáu'r ysgol i gynnig y cwricwlwm llawn, mae ganddi feithrinfa ddynodedig, neuadd ysgol fawr sy'n addas at y diben, cyfleusterau cegin llawer gwell ac ardal gemau amlddefnydd awyr agored.
Bydd y dyluniad yn caniatáu i'r ysgol dyfu'n unol â'r galw a bydd lle i hyd at 420 o ddisgyblion yn y dyfodol.
Meddai'r Pennaeth, Berian Jones, "Rydym bellach wedi ymgartrefu ar ôl symud ac wedi dechrau mwynhau ein cartref newydd. Mae disgyblion wedi cael eu llethu gan ba mor fawr, gwahanol a newydd y mae'r adeilad. Mae'r cyfleusterau o'r radd flaenaf a bydd yn caniatáu i'n tîm gwych o staff ddarparu'r cwricwlwm newydd i Gymru yn ei holl ogoniant i bob disgybl o'r meithrin i flwyddyn 6 trwy gyfrwng y Gymraeg. Ni allwn ddiolch digon i dimau Cyngor Abertawe, Kier a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth a'u buddsoddiad yn y prosiect hwn.
Rydym yn edrych ymlaen at rannu'n cyfleusterau a gweithio gyda'n cymuned estynedig yn y dyfodol.
"Fel y pennaeth, rydw i'n bersonol yn teimlo bod y disgyblion, y staff a'r gymuned yn lwcus iawn ac mae ganddynt bellach y cartref newydd ar gyfer addysg Gymraeg y maent yn ei haeddu.