Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau wedi'u cyflwyno ar gyfer pontŵn ar afon Tawe

Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno i osod pontŵn i gychod ar afon Tawe Abertawe.

Tawe Pontoon Site

Tawe Pontoon Site

Byddai'n cael ei osod tua 1.5 milltir i fyny'r afon o'r morglawdd, wrth ymyl Gwaith Copr hanesyddol yr Hafod-Morfa sy'n cael ei adfywio ar hyn o bryd.

Byddai ar gael ar gyfer gwasanaethau fel cwch cymunedol Copper Jack ac i glybiau rhwyfo.

Cyflwynwyd y cais cynllunio gan y cyngor, ac mae'r pontŵn hwn yn rhan o'r gwaith cyfredol i adfywio Cwm Tawe Isaf.

Mae'r cynlluniau, a luniwyd ar gyfer y cyngor gan Ashley Davies Architects a'r arbenigwyr saernïol, Mann Williams, yn dangos pontŵn 59m o hyd yn ymyl y llwybr presennol ar lan yr afon, a wal gei.

Byddai'r pontŵn ar bwys peiriandai hanesyddol Vivian a Musgrave sydd, mewn blynyddoedd diweddar, wedi'u diogelu gan y cyngor a phartneriaid ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Caeodd Gwaith Copr yr Hafod-Morfa rhyw bedwar degawd yn ôl ac mae'r cyngor yn gweithio ar ganolfan newydd yno i'r brand diodydd o Gymru, Penderyn. Y bwriad yw y caiff ei defnyddio'n nes ymlaen ar gyfer defnyddiau gweithredol sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Caiff y cais cynllunio ei ystyried gan adran gynllunio Cyngor Abertawe yn y misoedd i ddod.

Ariennir y cynllun yn rhannol gan Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Rhagor: www.bit.ly/TawePontoonPA

Llun: Safle pontŵn arfaethedig afon Tawe heddiw Llun: Ashley Davies Architects

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Gorffenaf 2022