O egin fusnes yn Abertawe i fusnes sy'n werth £1m mewn dwy flynedd
Mae asiantaeth farchnata yn Abertawe wedi datblygu o egin fusnes i fusnes sy'n werth £1m mewn dwy flynedd.


Mae asiantaeth farchnata yn Abertawe wedi datblygu o egin fusnes i fusnes sy'n werth £1m mewn dwy flynedd.
Mae gan The Cusp, a sefydlwyd gan Jess Hickman a Louise Rengozzi, gleientiaid ar draws y DU yn ogystal ag yn Abu Dhabi.
Bydd y busnes yn dathlu ei ail ben-blwydd ddydd Llun 3 Mawrth, ac mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys marchnata ar gyfryngau cymdeithasol, fideos ar alw, marchnata clywedol a hysbysiadau awyr agored.
Mae'r asiantaeth hefyd wedi lansio podlediad o'r enw 'Marketing Heroes' sy'n rhannu mewnwelediadau wythnosol oddi wrth arweinwyr diwydiannol sy'n ysbrydoli busnesau i greu effaith barhaol.
Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer digwyddiad o'r enw 'Rise and Thrive' a drefnwyd gan The Cusp ar ddydd Iau 6 Mawrth yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Bydd yn digwydd yn The Georgian yn Abertawe rhwng 8am ac 11am ac yn dathlu menywod ym maes busnes, a bydd y rheini sy'n bresennol yn clywed gan restr o entrepreneuriaid benywaidd a menywod dylanwadol o sefydliadau blaengar yng Nghymru.
Byddant yn cynnwys Sarah Drummond, cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Drop Bear Beer; Isabella Williams, sylfaenydd Sunnieside Skin; Dr Michaela James, sylfaenydd Girls to the Front; y siaradwr busnes Bernie Davies; a'r hyfforddwr meddylfryd a marchnata Crystal Jukes.
Nid yw The Cusp wedi derbyn unrhyw fuddsoddiad allanol ar wahân i grant busnes oddi wrth Gyngor Abertawe trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.